Pobl y Cynulliad: Morgan Reeves, Cymorth Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Cyhoeddwyd 29/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2014

Morgan Gwnes gais am y Cynllun Prentisiaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol tra’r oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol, ar ôl clywed llawer am y sefydliad. Penderfynais fod hwn yn cynnig cyfle enfawr na ddylid ei golli. Ar ôl cael y ffurflen gais, yn gyntaf cefais ymdeimlad o aeddfedrwydd gan mai hon oedd y swydd gyntaf i mi erioed wneud cais amdani. Ar ôl teimlo ychydig yn bryderus i ddechrau, rhoddodd y ffurflen gais dipyn o hwb i fy hyder gan fy mod, am newid, yn gorfod creu delwedd fwy ohonof fy hun! Ar ôl cael cais i fynd i’r ganolfan asesu, es i adeilad brics coch Tŷ Hywel gyda gobeithion uchel. Roedd rhaglen y ganolfan asesu yn heriol ond hefyd yn werth chweil ar yr un pryd gan ei bod yn rhoi cyfle i mi werthu fy hun i’r aseswyr gan gynnwys un a fyddai’n rheolwr llinell i mi o bosibl. Rhan gofiadwy o’r diwrnod asesu oedd y cyfle i gael taith o amgylch adeilad mawreddog y Senedd, sydd hyd heddiw yn parhau i ymddangos yr un mor fawreddog imi wrth imi gerdded drwyddo. Ar ôl bod yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, gofynnwyd imi ddod i gyfweliad. Ar ôl cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddiwrnod fy nghyfweliad, roeddwn i’n teimlo’n nerfus ond hefyd yn falch fy mod wedi cyrraedd y cam hwn. Ar y dechrau roeddwn yn ofni y byddai’r cyfweliad yn ffurfiol iawn ac yn eithaf brawychus – nid oedd hynny’n wir, helpodd y cyfwelwyr fi i ffynnu ac roeddent yn gwrando yn astud ar bob gair a ddywedais. Yn dilyn y cyfweliad roeddwn wrth fy modd o gael gwybod fy mod wedi cael fy nerbyn i Gynllun Prentisiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ychydig wythnosau cyn dechrau gweithio, cawsom wahoddiad i gwrdd â’n darpar reolwyr llinell a Phenaethiaid Gwasanaeth. Galluogodd hyn i ni ymgyfarwyddo â rhai o’r bobl y byddem yn gweithio â hwy a hefyd i ddod i wybod am ein swyddogaethau o fewn y sefydliad. Ar y diwrnod hwnnw, dysgais hefyd fy mod i fod yn aelod o’r Tîm Cynaliadwyedd tra byddwn hefyd yn chwarae rhan fawr yn ochr Rheoli Cyfleusterau’r adran. I ddechrau, nid oeddwn yn deall yn iawn beth fyddai fy rôl yn ei olygu, ond ar ôl cyfarfod â fy rheolwr llinell a’r darpar Bennaeth Gwasanaeth, roedd gen i well ddealltwriaeth. Ers hynny, dwi wedi gweithio yn yr un adran am dros flwyddyn. Dwi wedi tyfu i fyny’n feddyliol ac wedi aeddfedu y tu hwnt i’m harddegau! Mae’r cyfle hwn wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy hun yn bersonol ac yn broffesiynol gyda dyfodol disglair o’m blaen.   Pobl y Cynulliad; cyfres fideo a blogio gan amryw o aelodau o staff yn egluro eu gwaith yn y Cynulliad.