Pobl y Cynullid: Wythnos Prentisiaethau

Cyhoeddwyd 10/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2015

[caption id="attachment_808" align="alignnone" width="660"]Ein prentis Lori gydag aelod o staff Adnoddau Dynol yn llyfrgell y Cynulliad Ein prentis Lori gydag aelod o staff Adnoddau Dynol yn llyfrgell y Cynulliad[/caption]  Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn dathlu’r effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau’n ei chael ar unigolion a busnesau. Lori Nicolls, prentis gyda’n tîm Cyfathreu, yn dweud ei hanes: Es i’n ôl i ymweld â fy hen ysgol, sef Ysgol Gyfun y Coed-duon, yn ddiweddar fel rhan o gynllun ‘Cenhadon Prentisiaethau’  Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Roeddwn wrth fy modd fy mod i wedi cael fy newis, a fedrwn i ddim aros i sôn wrth y myfyrwyr am fy mhrofiad o fod yn brentis ac o weithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Roeddwn i braidd y bryderus, ond gyda help fy nodiadau, siaradais o flaen 200 o fyfyrwyr blwyddyn 10. Cyn i mi adael yr ysgol, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr i’w ddilyn o ran gyrfa, felly ar ôl gwneud cais am nifer o swyddi, a chael dim lwc, roedd yn syndod llwyr i mi weld bod prentisiaethau ar gael ym myd busnes a’r cyfryngau. Roeddwn i dan yr argraff mai dim ond cyrsiau traddodiadol fel trin gwallt neu adeiladu oedd yn cynnig prentisiaethau. Ym mis Chwefror 2013, roeddwn yn falch fy mod i wedi llwyddo i gael swydd fel prentis yn y Cynulliad Cenedlaethol, a chefais fy rhoi yn yr adran Gyfathrebu. Mae’r gwaith yn amrywio bob dydd, a dyna rwy’n ei fwynhau am y swydd. Ambell ddiwrnod, byddaf yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol, yn creu ac yn drafftio negeseuon trydar ar gyfer y cyhoedd. Dro arall, gallaf fod yn helpu cydweithiwr i gynllunio neu gynnal digwyddiadau, ac weithiau byddaf yn gweithio ar gyhoeddiadau’r Cynulliad. Gan fod cyflogwyr yn gofyn fwyfwy i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt brofiad ymarferol, rwy’n credu bod prentisiaeth yn cynnig o gorau o ddau fyd. Gallwch ddysgu wrth ennill cyflog, a chael profiad amhrisiadwy.
Ariennir y rhaglen brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae ystod enfawr o fframweithiau prentisiaeth ar gael i bobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd ym meysydd cigyddiaeth, pobi, peirianneg, gwasanaethau trydan, lletygarwch ac Adnoddau Dynol. I gael rhagor o wybodaeth am y broses o ddod yn brentis, ewch i http://www.careerswales.com/cy/ neu ffoniwch 0800 0284844. Gallwch ddod o hyd i ni hefyd ar Facebook: www.facebook.com/apprenticeshipscymru; ac ar Twitter: @apprenticewales