Polisiau staff cynhwysol

Cyhoeddwyd 05/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2016

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr sy’n cefnogi ac yn parchu amrywiaeth y gweithlu. Rydym yn sicrhau bod pob un o’n polisiau staff yn cael asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau nad ydynt yn rhoi unrhyw un o dan anfantais a’u bod yr un mor berthnasol i’r holl staff, gan gynnwys: staff anabl; staff sy’n bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig; staff hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol; menywod; pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu; staff sydd â threfniadau gweithio hyblyg. I’n helpu i wneud polisïau addas sy’n cydnabod yr anghenion amrywiol sydd gan bobl amrywiol, rydym yn ymgynghori gyda’n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur. Rydym wedi cael nifer o wobrau sy’n arddangos ein hymrwymiad i gefnogi ein staff yn llawn a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae’r safonau hyn yn cydnabod y polisiau staff blaengar sydd gennym ar waith ac sy’n ein helpu i gynnal arferion gorau. Mae’r Cynulliad wedi:
  • Cyflawni Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, y gydnabyddiaeth uchaf o’n hymrwymiad i’n staff;
  • Cael cydnabyddiaeth fel un o’r cyflogwyr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio;
  • Cael ei restru yn y 50 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Menywod gan The Times;
  • Cyflawni Nod Siarter ‘Yn Uwch na Geiriau’ Action on Hearing Loss, ac ennill Gwobr Gwychder Cymru, sy’n arddangos ein bod wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion staff a defnyddwyr gwasanaeth sy’n fyddar neu sy’n drwm eu clyw;
  • Ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, sy’n cydnabod lleoliadau sy’n sicrhau bod ymwelwyr ag awtistiaeth yn cael yr un croeso â phawb arall.
  • Cael cydnabyddiaeth gan Stonewall fel y Cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf, ac yn rhif 3 ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2016 Stonewall o’r cyflogwyr gorau yn y Deyrnas Unedig.
  • Gwneud ymrwymiad i fod yn Hyrwyddwr Oedran; a
  • Gwneud ymrwymiad i fod yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl.
accreditation