Pride Cymru 2016
Cyhoeddwyd 16/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2016
Blog Pride Cymru 2016 gan gyd-gadeiryddion OUT-NAW, rhwydwaith gweithle LHDT Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Wel, oni wnaeth Cymru gynnig sioe wych o amrywiaeth a chynhwysiant LHDT ar gyfer penwythnos Pride Cymru? Gyda theithiau beic elusennol, twrnamaint rygbi 7 bob ochr, lleoliadau yn cynnal corau LHDT, baneri enfys ar hyd a lled y ddinas, gorymdaith enfawr trwy ganol dinas Caerdydd ac, unwaith eto, dilynwyd hyn gan y prif ddigwyddiad ar Faes Coopers. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Pride Cymru yn ddigwyddiad mwy a gwell ac rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o ddathliad sydd wedi datblygu'n un o brif ddigwyddiadau blynyddol Caerdydd.
Fel y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn disgwyl, chwaraeodd y Cynulliad Cenedlaethol ei ran unwaith eto. Yn ogystal â mynd â'n bws allgymorth i Faes Coopers a chwifio'r baneri enfys ar draws ein hystâd, eleni roeddem yn hynod falch o allu goleuo'r Senedd gyda lliwiau'r enfys drwy gydol y penwythnos.
Gwnaethom gymryd rhan yn yr orymdaith hefyd, a hynny am y tro cyntaf. Gydag aelodau'r rhwydwaith, cynghreiriaid, modelau rôl, aelodau'r Bwrdd Rheoli, partneriaid ac aelodau teuluoedd yn ymuno â ni, ni fyddem wedi gallu disgwyl mwy o gefnogaeth. Un o'r rhai cyntaf i wirfoddoli oedd ein Prif Weithredwr, Claire Clancy, sy'n eiriolwr gwych dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Roeddem i gyd yn falch o sefyll gyda'n gilydd ar yr orymdaith i ddangos ein hymrwymiad i greu Cymru ddiogel, teg a chynhwysol.
[caption id="attachment_1538" align="aligncenter" width="300"] Aelodau OUT-NAW yng ngorymdaith Pride Cymru[/caption]
[caption id="attachment_1539" align="aligncenter" width="386"] Aelodau OUT-NAW a'r cyhoedd yng ngorymdaith Pride Cymru[/caption]
Wrth gwrs, roedd yn rhaid i'n cyfraniad ar Faes Coopers gysylltu rywsut â democratiaeth, ond eleni gwnaethom sicrhau ei fod yn llawer mwy o hwyl. Gwnaeth llawer o bobl ddod i gael tynnu eu lluniau yn ffrâm hunlun y Senedd, a buom yn trydar y rhain drwy gydol y dydd. Roeddem yn falch iawn o weld aelod newydd o'r rhwydwaith, Hannah Blythyn AC, cyn iddi siarad ar y prif lwyfan. Yn ychwanegol at ein hymgyrch #AdnabodEichAC a'r ymgynghoriad ar gyfer ein cynllun amrywiaeth newydd, gwnaeth lawer o bobl ifanc gymryd rhan yn frwdfrydig yn ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wasanaethau ieuenctid. Bydd eu barn yn rhan o ystyriaethau'r Pwyllgor, a dyma'n union yw bwriad ein strategaeth ymgysylltu â phobl ifanc - gosod barn pobl ifanc wrth wraidd ystyriaethau'r Cynulliad.
[caption id="attachment_1537" align="aligncenter" width="379"] Pobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid[/caption]
Fel gweithle gorau Stonewall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran bod yn LHDT-gynhwysol, rydym wedi cynorthwyo sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt gyda chyngor, adnoddau, hyfforddiant a mentora unwaith eto. Dyna'r hyn y dylem ei wneud i helpu i greu mwy o weithleoedd mwy cynhwysol lle gall staff LHDT fod yn nhw eu hunain ac mae'n bwysig i ni ein bod yn parhau i wneud hynny. O bwys eleni yw bod llawer o sefydliadau y tu hwnt i Gymru wedi cysylltu â ni. Rydym yn credu ei fod yn gyffrous iawn bod eraill yn sylwi ar yr hyn y mae Cymru'n ei wneud, ac rydym bob amser yn hapus i helpu'r rhai sy'n ceisio cael eu cynnwys ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, neu wella eu perfformiad oddi mewn iddo.
Yr hyn sydd wedi bod yn wahanol eleni yw datblygu ein rhwydweithiau y tu hwnt i'r disgwyl. Mae aelodau o OUT-NAW, ein rhwydwaith LHDT yn y gweithle, bellach yn defnyddio eu sgiliau a'u profiad i helpu eraill. Boed hynny gyda'r Sgowtiaid sydd bellach yn bresennol yn Pride Cymru trwy ymdrechion un o aelodau'n rhwydwaith, un o'n cynghreiriaid yn ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Chwarae Teg, pwyllgorau LHDT yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr neu undebau cenedlaethol, neu wneud cysylltiadau â gwaith elusennol Côr Meibion Hoyw De Cymru (SWGMC). Mae tri aelod o OUT-NAW yn gwirfoddoli gyda Out and Proud, prosiect ar gyfer pobl ifanc LHDT+ yn Ne Cymru. Wedi clywed am waith Out and Proud, a sylweddoli eu bod yn gweithredu ar gyllideb fach iawn ac yn methu â goroesi heb wirfoddolwyr parod, penderfynwyd cymryd camau drwy ddefnyddio ein cysylltiadau cymdeithasol ein hunain, a nhw nawr sy'n elwa o fod yn elusen enwebedig SWGMC.
Mae gwneud y cysylltiad rhwng ein gwahanol rwydweithiau wedi gweld manteision ehangach i'r gymuned LHDT ac mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Mae'r bobl ifanc eu hunain yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi nid yn unig gan ein gwirfoddolwyr, ond gan y gymuned LHDT ehangach hefyd. Roedd yn brofiad hyfryd ac emosiynol i'w gweld nhw wedi'u grymuso i siarad am faterion rhyw a rhywioldeb mewn cyngerdd diweddar gan Gorws Dynion Hoyw De Cymru, lle y codwyd cannoedd o bunnoedd. Roedd yr un mor ysbrydoledig i'w gweld ar fws allgymorth y Cynulliad yn ystod Pride Cymru ac yn cymryd rhan mewn prosesau democrataidd drwy ein hymgynghoriad ar wasanaethau ieuenctid. Mae arnom angen i bobl ifanc fwydo eu barn i mewn i wraidd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gwneud hynny o safbwynt lleiafrifol mor bwysig. Wedi'r cyfan, mae'r Cynulliad yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, felly mae amrywiaeth o safbwyntiau yn helpu i greu darlun llawn a chynhwysfawr o'r materion dan sylw.
Felly, daw hyn â ni i ddiwedd blwyddyn brysur i OUT-NAW. Er ein bod yn falch iawn o fod wedi cyflwyno toiledau niwtral o ran rhyw ar gyfer staff ac ymwelwyr ar draws ein hystâd ym Mae Caerdydd eleni, mae yna bob amser fwy i'w wneud i helpu i lunio democratiaeth gynhwysol. Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.
Yn dilyn blwyddyn wych arall, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau OUT-NAW, ein cynghreiriaid, arweinyddiaeth wleidyddol y Cynulliad, ein Bwrdd Rheoli a'r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn enwedig Ross Davies am ei egni, ei benderfyniad, ei sgiliau a'i brofiad o amrywiaeth LHDT. Mae'n ffynhonnell gyson o gyngor ac arweiniad, gan sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir tuag at weithle mwy cynhwysol.
Jayelle Robinson-Larkin & Craig Stephenson
Cyd-Gadeiryddion
[caption id="attachment_1190" align="aligncenter" width="357"] Logo'r OUT-NAW[/caption]
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg