Pryderu am ddyfodol y BBC yng Nghymru? Gofynnwch eich cwestiwn i Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

Cyhoeddwyd 07/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2016

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisiau clywed gennych cyn ei gyfarfod gyda Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.  Cynhelir y cyfarfod ar 2 Tachwedd a bydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar Senedd.TV. Y dyddiad cau ar gyfer cwestiynau yw 21 Hydref. Ar Twitter gallwch ddefnyddio #HoliBBC neu gallwch drydar y pwyllgor @SeneddDGCh. Gallwch hefyd adael sylw ar dudalen Facebook y Cynulliad neu e-bostiwch eich cwestiwn i SeneddDGCh@cynulliad.cymru. 7-put-your-question-cy Pwy yw Tony Hall a beth mae'n ei wneud?  Tony Hall - yr Arglwydd Hall o Benbedw - yw 16eg Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Y Cyfarwyddwr Cyffredinol yw Prif Swyddog Gweithredol y BBC, sef ei Brif Olygydd. I gael gwybod mwy am Tony Hall a rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol gallwch ymweld â Gwefan y BBC. Pam mae e'n dod i'r Cynulliad? Mae Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu newydd y Cynulliad ar hyn o bryd yn edrych ar effaith Siarter y BBC a beth fydd ffurf rhaglenni'r BBC yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor yn ymdrin â meysydd sy'n cynnwys yr Adolygiad o Siarter y BBC a rôl y  'Cyfarwyddwr y Gwledydd a'r Rhanbarthau' a benodwyd yn ddiweddar. Mae gan BBC Cymru gyllideb flynyddol o dros £150 miliwn ac mae'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer Radio Wales, Radio Cymru, y teledu a gwasanaethau ar-lein. Mae BBC Cymru hefyd yn gwneud 10 awr yr wythnos o deledu ar gyfer S4C. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gostyngiad yn y cynnwys Saesneg a gynhyrchir yn benodol ar gyfer Cymru. Neges gan Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Mae'r BBC yn gonglfaen o ran cynnwys y cyfryngau i lawer o bobl a gallai fod ar fin mynd drwy nifer o newidiadau sylweddol o dan yr Adolygiad o'r Siarter.  Mewn rhai ffyrdd mae Cymru'n elwa'n fawr ar y BBC oherwydd ei phentref drama yn Noc y Rhath lle mae Sherlock, Doctor Who a Casualty yn cael eu ffilmio. Dyma gynyrchiadau o'r radd flaenaf sydd yn ddiamau yn ein rhoi ni ar y map.  Ond, mewn ffyrdd eraill, mae diffyg rhaglenni a chynnwys sy'n benodol i Gymru, ac mae toriadau diweddar yn y gyllideb yn peri pryder mawr.  Felly, byddwn yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol sut, yn ei farn ef, y bydd y BBC yng Nghymru yn edrych yn y dyfodol.  Beth yw pwyllgor?  Mae pwyllgor yn cynnwys grŵp bach o Aelodau Cynulliad o wahanol bleidiau sy'n edrych ar faterion penodol yn fanylach. Maent yn aml yn gofyn am fewnbwn gan gynghorwyr arbenigol allanol ac aelodau o'r gymuned cyn gwneud penderfyniadau. Mae pwyllgorau yn argymell ffyrdd y gallai (er enghraifft) polisïau'r llywodraeth fod yn fwy cadarn a'i gwariant yn fwy effeithiol, effeithlon a darbodus. Mae pwyllgorau'n ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn arloesol gydag unigolion a sefydliadau sy'n gallu mynegi llais a phrofiad pobl Cymru Rhestr lawn o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru