Pŵer eich Pleidlais : Ffug Etholiad i Bobl Ifanc

Cyhoeddwyd 14/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/04/2021   |   Amser darllen munudau

Pwy fyddai wedi cael eich pleidlais?

Cyfle arall i wylio'r ail ffug etholiad i bobl ifanc - Pwer eich Pleidlais.

Fe wnaeth pum grŵp o bleidleiswyr ifanc angerddol o bob rhan o Gymru herio gwleidyddion y Senedd mewn ffug etholiad rhithwir. 

Yr her i'r grwpiau o bobl ifanc oedd ffurfio pum plaid wleidyddol ffuglennol a chyflwyno'r materion sy'n bwysig iddynt yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan y Senedd.

Plaid Lles y Bobl, Plurdd Gobaith Cymru, Dyfodol Pobl Ifanc, Ieuenctid Crughywel, a'r Blaid Fytholwyrdd sy'n cyflwyno eu maniffestos ac yn trafod ystod eang o bynciau fel y cwricwlwm, rhagfarn, datganoli'r system droseddu, ceir trydanol, a thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc.