Pwyllgor y Cynulliad yn cynnal digwyddiad ar Cyllid Cymru

Cyhoeddwyd 24/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/01/2014

Ddydd Mercher 22 Ionawr, daeth busnesau i frecwast busnes i gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad i drafod Cyllid Cymru, cwmni buddsoddi a sefydlwyd ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig, ac sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. [caption id="attachment_358" align="alignnone" width="300"](Ch-Dd) Julie Morgan AC, Peter Black AC, a Jocelyn Davies AC yn ystod y digwyddiad (Ch-Dd) Julie Morgan AC, Peter Black AC, a Jocelyn Davies AC yn ystod y digwyddiad[/caption] Gellir weld mwy o luniau ar ein gwefan Flickr yma. Daeth yr wyth aelod o'r Pwyllgor Cyllid i gyfarfod ag amrywiaeth o fusnesau o Gymru, gan gynnwys datblygwyr apiau ar gyfer y we, cwmnïau bragu, cynhyrchwyr a chyfrifwyr siartredig, i enwi dim ond rhai. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid Cymru http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8230 Rhannwyd pawb yn bedwar grŵp ffocws gwahanol a thrafodwyd y themâu a ganlyn; - Sut y mae'r galw am gyllid gan Fentrau Bach a Chanolig wedi newid ers y Wasgfa Gredyd yn 2008? - Profiadau unigolion o Gyllid Cymru - Sut y mae Cyllid Cymru yn cymharu â darparwyr eraill, fel banciau, o ran y cymorth a'r cyngor ariannol a gynigir? - Pa gymorth fyddai busnesau'n ei hoffi gan Gyllid Cymru a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? - A yw Cyllid Cymru yn llwyddo i'w hyrwyddo'i hun a'r gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael? Roedd sylwadau a phrofiadau pawb yn wahanol iawn, rhai'n gadarnhaol ac eraill yn negyddol. Dyma'r prif bwyntiau a gododd yn ystod un o'r trafodaethau: - Mae angen mwy o gyngor busnes i'r rhai sydd am ddechrau busnes, a chymorth gyda'r broses ymgeisio hefyd i'r rhai sydd â syniadau da ond prin ddim arbenigedd ym maes busnes; - Llwyddodd arian gan Gyllid Cymru i lenwi bwlch yn y farchnad gan nad oedd neb arall yn fodlon ariannu rhai busnesau. - Roedd y cyfraddau llog a godwyd yn rhesymol o ystyried y risgiau - Mae Cyllid Cymru yn gaffaeliad i Gymru ac ni ddylid ei newid rhyw lawer. - Gellid archwilio ymhellach y syniad o sefydlu Banc Datblygu i helpu pobl i ddechrau busnes, ond dylid gwneud hynny ochr yn ochr â Chyllid Cymru a thargedu busnesau newydd. - Oni bai am Gyllid Cymru, ni fyddai rhai busnesau wedi sefydlu yng Nghymru. Caiff nodyn am y trafodaethau ei gyhoeddi yma yn ystod y bythefnos nesaf: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgConsultationDisplay.aspx?ID=102 Ar ôl y cyfarfod, holwyd Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, a Malcolm Duncan, Rheolwr Gyfarwyddwr SuperRod, yn Nhorfaen, a dyma a oedd ganddynt i'w ddweud:
[youtube=http://youtu.be/2PxyDpffia8] Bydd y Pwyllgor yna awr yn siarad â'r grwpiau a'r sefydliadau yn y Senedd cyn paratoi adroddiad yn amlinellu argymhellion i Lywodraeth Cymru. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Chwefror, pan fydd Aelodau'r Cynulliad yn siarad â'r Athro Dylan Jones-Evans - Athro Mentergarwch a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr; http://www.senedd.cynulliadcymru.org/ieListDocuments.aspx?CId=229&MID=2044&Ver=4 Gallwch ddod i'r Senedd i wylio'r cyfarfod hwn neu ei wylio ar-lein yn www.senedd.tv