Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach - Digwyddiad i randdeiliaid

Cyhoeddwyd 16/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2017

Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf. IMG_2254

Beth ddigwyddodd?

Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod â rhanddeiliaid sut y mae’r Pwyllgor wedi darparu o ran ei raglen waith, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu pethau, yn enwedig:
  • Beth oedd uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Pwyllgor? Beth y gallai’r Pwyllgor fod wedi’i wneud yn well?
  • Beth yw’r tueddiadau neu’r digwyddiadau allweddol dros y 12 i 18 mis nesaf?
  • A yw’r amseru yn iawn ac a oes unrhyw beth ar goll yn syniadau cychwynnol y Pwyllgor am waith yn y dyfodol?
Y themâu allweddol a oedd yn dod i’r amlwg o lawer o’r trafodaethau oedd effaith gadael yr UE a phwysigrwydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sydd ar fin cael ei chyhoeddi.

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd: "Flwyddyn ar ôl i ni wahodd amrywiaeth o randdeiliaid gyntaf i roi gwybod i ni am yr hyn y dylem ei wneud fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i glywed beth oedd eu barn am yr hyn a wnaed gennym. Ac i weld beth oedd eu barn am rai o’n syniadau sy’n datblygu ar gyfer y flwyddyn i ddod. "Ar ôl y trafodaethau heddiw, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn i ddatblygu rhaglen waith sy’n ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar y tair prif elfen o’n cylch gwaith, sef yr economi, seilwaith a sgiliau." IMG_2255

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y tîm clercio yn defnyddio’r syniadau a’r sylwadau a gafwyd gan randdeiliaid i lywio papur, a fydd yn nodi blaenoriaethau ac ymchwiliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried ym mis Medi.