Rhannu arfer da wrth graffu (2)

Cyhoeddwyd 07/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2015

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro… Croeso nôl! Gosododd fy mlog cyntaf y cyd-destun ac egluro sut a pham y daeth Pwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod syniadau ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd ar graffu. Ynddo, eglurais ein bod yn awyddus i chwilio am ffyrdd o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, boed hynny i helpu'r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, neu i helpu cynghorau lleol i graffu ar waith arweinwyr cynghorau. Rŷm yn rhannu'r un her... weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl y byddem yn hoffi clywed ganddyn nhw. I ddarllen pennod gyntaf fy mlog, cliciwch yma. Yn y bennod hon, byddaf yn egluro sut rŷm ni yn y Cynulliad yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn, gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos. Pecyn cymorth ymgynghori Cefais fy mhlesio gan barodrwydd Cyngor Abertawe i ystyried syniadau, a'u hawydd i gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith. Roeddwn yn deall rhai o'u pryderon (y mae pob sefydliad sector cyhoeddus arall yn ei rannu, rwy'n siŵr) yn ymwneud ag amser, ymdrech a'r adnoddau i'w wneud yn iawn. Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni yn y Cynulliad hefyd ei ystyried, ac mae'n saernïo'r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig a'u cyflwyno. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhyrchwyd ein pecyn cymorth ymgynghori (PDF 5.82MB). Rhestr o ddulliau ymgysylltu yw'r pecyn cymorth ymgynghori sydd wedi ei ddefnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei werthuso ar ôl ei ddefnyddio yn ôl cryfderau, gwendidau, awgrymiadau o amseroedd paratoi, costau ac ystyriaethau eraill. Mae'n rhestru'r gwahanol bethau y gall tîm Allgymorth y Cynulliad eu cyflawni wrth gynorthwyo pwyllgorau i ddod o hyd i fwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys llawer o opsiynau gwahanol, ffyrdd o gasglu barn (tystiolaeth) pobl gan gynnwys grwpiau ffocws, digwyddiadau, ffilmio cyfweliadau fideo, gwe-sgyrsiau ac arolygon. Mae dod o hyd i bobl o wahanol gefndiroedd, a chlywed eu safbwyntiau yn helpu Aelodau'r Cynulliad i ddeall y materion a'r effaith y maen nhw'n ei gael ar fywydau pobl. Mae Aelodau Cynulliad (neu gynghorwyr o ran hynny) sydd a gwell gwybodaeth yn arwain at graffu gwell a pholisïau gwell, felly ni ddylid tanbrisio gwerth ymgysylltu â grŵp ehangach o bobl yn y broses hon. Mae'r fideo hwn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gyda myfyrwyr ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Sgiliau Mathemateg yng Nghymru fel rhan o graffu pwyllgor: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=fomBO9zuluU&w=560&h=315] Mae'r fideo hwn yn dangos pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo ar gyfer  ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=UFzbPcQjrtc&w=560&h=315] Efallai eich bod yn meddwl bod y pethau hyn yn costio llawer o arian. Mae defnyddio Google Hangouts i gynnal gwe-sgyrsiau yn rhad ac am ddim. Os ydych am ffilmio cyfweliadau fideo gyda phobl yn eich ardal chi, bydd iPad yn costio £200 i chi, a gallwch ei ddefnyddio i ffilmio pobl trwy dechnoleg manylder uwch, a gallwch ddefnyddio'r ap o'r enw iMovie i olygu'r ffilm. Gellir cynllunio, dylunio a hyrwyddo arolwg yn rhad iawn, trwy ddefnyddio Facebook, Twitter a chyfryngau eraill. Yn ddiweddar, rŷm wedi bod yn hyrwyddo ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru drwy bostiadau wedi eu hyrwyddo ar Facebook, a gostiodd £50 i ni dros gyfnod o bythefnos. Mae'r post hwn (hyd yn hyn) wedi ei rannu 117 o weithiau ac mae 39 o sylwadau wedi eu gwneud. Dod o hyd i gyfranogwyr Ystyriwch pwy ydych yn gweld/gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd drwy'r gweithgareddau/gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu o ddydd i ddydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae gennym staff cyfathrebu sy'n gweld pobl yn dod i'r Senedd, yn mynd i ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i esbonio beth mae'r Cynulliad yn ei wneud a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rŷm ni'n defnyddio'r rhyngweithiadau hyn, y pethau yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd, i egluro materion sy'n cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, ac yn rhoi pobl â chyfleoedd uniongyrchol i ddweud eu dweud ar y pynciau hyn. Pan fyddwn yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgor, byddwn yn cysylltu ag elusennau, mudiadau gwirfoddol, cyrff cynrychioliadol a grwpiau cymunedol yn rheolaidd. Mae cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, felly gallai ymgysylltu â'r grwpiau sy'n bodoli eisoes fod yn ffordd gyflym a hawdd iawn i ehangu'r ystod o bobl a allai gyfrannu at eu gwaith craffu. Un peth wnaethon ni ar gyfer yr ymchwiliad Bill Trawsblannu Dynol oedd gadael taflenni ym meddygfeydd meddygon teulu, gan dargedu pobl ag anghenion penodol mewn maes penodol. Adborth Un o'r meysydd yr oedd gan griw Cyngor Abertawe ddiddordeb mawr ynddo oedd sut rŷm ni'n rhoi adborth i bobl sydd wedi cyfrannu drwy gydol y broses. Fe ddangoson ni rai enghreifftiau o sut rŷm wedi gwneud hyn, fel y fideo hwn sy'n esbonio beth wnaed â chanlyniadau arolwg i ailgylchu yng Nghymru , a'r fideo hwn sy'n esbonio sut y dylanwadodd yr hyn a ddywedodd pobl ifanc am entrepreneuriaeth ieuenctid ar adroddiad pwyllgor . Mae ymrwymo i roi adborth i gyfranogwyr yn bwysig iawn, neu gallech ddadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod gweithgarwch ymgysylltu, drwy beidio â diweddaru pobl ar yr hyn yr arweiniodd eu cyfranogiad ato. Yn y Cynulliad, rŷm ni ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â'r cyhoedd, yn arbennig sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am waith y pwyllgorau. Fel rhan o'r broses hon byddwn yn ystyried sut rŷm ni’n rhoi gwybod i bobl am y broses ymchwilio y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni, a pha lwyfannau (boed hynny drwy ddefnyddio fideo, Storify neu e-bost syml) y dylem eu defnyddio wrth wneud hyn. Mae'n ymddangos bod Cyngor Abertawe a'r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y gwaith o grynhoi taith y cwsmer ar hyn o bryd, a gobeithio y gallwn gydweithio i wneud hyn. Mwy o newyddion i ddod. Dyma le da i ddod â'r  blog hwn i ben. Bydd y cofnod nesaf yn edrych ar y broses gynllunio, a sut mae'r gwaith hwn yn digwydd tu ôl i'r llenni yn y Cynulliad er mwyn gwneud yr holl gyfleoedd ymgysylltu hyn yn bosibl.