- Pwy ydych chi'n disgwyl fydd yn mynegi eu barn yn ysgrifenedig? (tystiolaeth ysgrifenedig);
- Pwy ydych chi'n meddwl y byddwch yn gwahodd i siarad â'r pwyllgor mewn cyfarfodydd swyddogol? (tystiolaeth lafar;
- Pwy ydych chi'n awyddus i glywed ganddyn nhw, nad ydych yn meddwl fydd yn cysylltu, a sut y gallwn ni eu cyrraedd nhw?
Rhannu arfer da wrth graffu (3)
Cyhoeddwyd 07/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…
Croeso i'r trydydd blog, a’r cofnod olaf yn y gyfres hon. Yn fy nghofnodion blaenorol, siaradais am yr her o gael amrywiaeth eang o bobl i gyfrannu at graffu pwyllgor , ac yna siaradais am y gwahanol bethau rŷm yn ei wneud yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn y cofnod hwn, rwy'n mynd i siarad am y broses gynllunio, a fydd, efallai, yn llai diddorol na'r blogiau blaenorol, ond mae'n bosibl mai dyma ddarn pwysica'r pos. Heb gynllunio a thrafodaeth briodol yn ddigon cynnar yn y broses, fyddai'r un o'r elfennau y siaredais amdanyn nhw yn y ddau flog cyntaf ddim wedi bod yn bosibl.
Mae cynllunio a chynnwys y bobl gywir ar yr adeg gywir yn rhan bwysig iawn o'r cam cyntaf. Gellir gwneud llawer o'r gwaith paratoi o flaen llaw er mwyn rhoi amser i staff mewnol gynllunio, meddwl am syniadau, siarad ag arbenigwyr allanol a chysylltu ag Aelodau Cynulliad/Cynghorwyr, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i lunio'r math o weithgaredd ymgysylltu, ac yn enwedig y cynulleidfaoedd, y maen nhw eisiau clywed ganddyn nhw. Yn y Cynulliad mae gennym dimau integredig (sydd fel arfer yn cynnwys ymchwilydd, clerc pwyllgor, cynghorwr cyfreithiol a staff chyfathrebu), sy'n golygu bod swyddogion o bob pwyllgor yn cwrdd yn wythnosol i drafod ymchwiliadau a gwaith, yn ogystal â beth fydd yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd nesa. Nid yw'n anarferol i'r timau integredig hyn drafod beth sydd i ddod dros y pump a’r chwech mis nesaf. Mae cynllunio priodol yn golygu fod gennych fwy o hyblygrwydd a dewisiadau pan ddaw hi i ymgysylltu â gwahanol grwpiau, sefydliadau ac unigolion. Mae'n bwysig bod eich pobl cyfathrebu yn rhan o'r gwaith o'r cam cynharaf posibl er mwyn cynghori a helpu i lunio'r gwaith, yn hytrach na'i fod yn ôl-ystyriaeth, neu eich bod yn gofyn ar ddiwedd y broses am gymorth i roi cyhoeddusrwydd ar rywbeth nad ydyn nhw wedi helpu ei lunio.
Bydd cynllunio ymlaen hefyd yn golygu y bydd gan y grwpiau a'r sefydliadau hynny rydych eisiau eu helpu i hyrwyddo'r gweithgaredd (boed yn ddigwyddiad, arolwg, y cyfle i gael eich cyfweld ac ati) ddigon o amser i wneud hynny. Mae'n bwysig defnyddio arbenigedd grwpiau a sefydliadau allanol wrth geisio dewis y math priodol o ddull ymgysylltu, yn seiliedig ar eich cynulleidfa darged. Mae cynghorau mewn sefyllfa unigryw gan eu bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, yn cynnwys iechyd, addysg, trafnidiaeth a'r amgylchedd, i enwi ond ychydig. Mae'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr, a gall eich helpu i ystyried materion sy'n berthnasol i grwpiau penodol o bobl, yn seiliedig ar eu hoedran, rhyw, lefelau llythrennedd, cefndir ethnig ac ati.
Astudiaeth Achos: Craffu ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
Yn ddiweddar, edrychodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Roedd y Pwyllgor eisiau clywed yn uniongyrchol gan gleifion, felly trefnwyd grwpiau ffocws ledled Cymru gyda grwpiau cleifion, a wahoddwyd yn ddiweddarach i drafod eu profiadau gydag Aelodau'r Cynulliad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd. Yn allweddol i hyn oedd y cyfarfodydd cynnar y cafodd y tîm integredig i drafod syniadau, gan ofyn am gyngor gan MacMillan a'n helpodd ni yn y cyfnod cynnar i drefnu'r sesiynau a chleifion. Heb gynllunio priodol a'r trafodaethau cynnar hynny, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl, ac ni fyddai'r Pwyllgor wedi clywed yn uniongyrchol gan gleifion drwy gydol y broses.
Dyma fideo a wnaed ar ôl digwyddiad a gynhaliwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru:
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=mIT_nO1lKpI&w=560&h=315]
Yn y Cynulliad mae gennym dimau integredig (sydd fel arfer yn cynnwys ymchwilydd, clerc pwyllgor, cynghorwr cyfreithiol a staff chyfathrebu), sy'n golygu bod swyddogion o bob pwyllgor yn cwrdd yn wythnosol i drafod ymchwiliadau a gwaith, yn ogystal â beth fydd yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd nesa.
Fel arfer, rŷm yn trafod y cwestiynau canlynol: