Rhannu Heriau a Chyfleoedd Gweithio mewn Deddfwriaethol Llai â Senedd Bermuda

Cyhoeddwyd 07/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2018

Ar 29 Ionawr 2018, daeth dirprwyaeth o Aelodau a Chlerc y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Senedd Bermwda i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Trefnwyd yr ymweliad gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) fel rhan o’i rhaglen dair blynedd gyda’r nod o atgyfnerthu craffu ariannol yn Nhiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig.  Mae CPA UK wedi ffurfio consortiwm gyda Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU ac Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth i gyflwyno prosiect tair blynedd o weithgareddau er mwyn dod â seneddwyr a swyddogion archwilio o’r tiriogaethau a’r DU ynghyd i drafod fframweithiau ar gyfer arfer da a blaenoriaethau ym maes rheolaeth ariannol gyhoeddus.

Dysgu o un o seneddiaethau hynaf y byd

Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus i ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gyffredin i waith deddfwrfeydd llai.  Mae Senedd Bermwda ymhlith yr hynaf yn y byd; fe’i sefydlwyd ym 1620, ac mae’n ganddi 36 Aelod. Gwnaethom drafod rôl y rhai sydd â’r dasg o gefnogi pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus fel rhan o’u gwaith.  Roeddem yn falch o groesawu Anthony Barrett, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, i siarad am y berthynas rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd gan y ddirprwyaeth ddiddordeb hefyd yn y ffordd y caiff rhaglen waith y Pwyllgor ei phenderfynu, ei chynllunio a’i blaenoriaethu a sut y mae’r Pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliadau.  Roedd yn ddiddorol i bawb ohonom, ac yn gysur hefyd, gael clywed am yr heriau cyffredin o ran dal y Llywodraeth i gyfrif gyda nifer gyfyngedig o Aelodau etholedig. Yn y trafodaethau, canolbwyntiwyd hefyd ar yr hyn sy’n gwneud Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus effeithiol ac ar yr angen am gonsensws yn y Pwyllgor, am annibyniaeth, a’r angen i greu canlyniadau adeiladol. Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Roeddem yn falch o groesawu’r ddirprwyaeth o Fermwda gan ein bod yn cydnabod y ffaith bod gwerth mewn archwilio arfer da rhyngwladol o ran goruchwyliaeth seneddol o gyllid cyhoeddus.  Dysgwyd llawer trwy archwilio’r hyn sy’n wahanol a’r hyn sy’n debyg yn nulliau Bermwda a Chymru a thrafod dulliau o gynnal effeithiolrwydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth weithio mewn deddfwrfa fach ". Roedd yr ymweliad yn ddefnyddiol iawn i bawb a gymerodd ran ac fe gyfrannodd at ddyfnhau’r ddealltwriaeth o arfer da rhyngwladol ym maes goruchwylio cyllid cyhoeddus.  Hefyd, cyfrannodd yr ymweliad at feithrin gallu a hyder Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermwda i weithio’n fwy effeithiol, ac roedd yn fraint i’r Cynulliad Cenedlaethol gael bod yn rhan o hynny. Y gobaith yw ein bod wedi sefydlu perthynas hirdymor â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermwda ac y byddwn yn parhau i rannu cymorth ac arfer da am flynyddoedd i ddod.