Rhoi cynnig ar fformat adroddiad newydd: Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Ystyried Pwerau: adroddiad ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd 07/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/09/2015

[embed]http://www.assembly.wales/SiteCollectionImages/News%20images/Ombudsman_homepage_cy.PNG[/embed]Eleni, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi bod yn edrych ar bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mai 2015. Mae tuedd i adroddiadau swyddogol pwyllgorau fod yn eithaf hir ac yn llawn tystiolaeth gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn ar wefanau'r Pwyllgor perthnasol. Mae'r fersiwn swyddogol o unrhyw adroddiad yn bwysig gan ei bod yn cynnwys holl dystiolaeth a holl argymhellion/canfyddiadau'r Pwyllgor, ac mae'n modd o ddarparu tryloywder. Mewn ymgais i wneud canfyddiadau adroddiadau yn fwy hygyrch i bobl a allai fod â diddordeb yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddwyd adroddiad cipolwg ar yr ymchwiliad i bwerau'r Ombwdsmon ochr yn ochr â'r adroddiad swyddogol. Cafodd hyn ei gynllunio fel y gellir ei darllen trwy fodio drwyddo ar dabled neu ffôn, neu trwy sgrolio trwyddo ar gyfrifiadur bwrdd gwaith. Er mwyn gwneud yr adroddiad yn fwy hygyrch, mae llai o eiriau, mae'r iaith yn symlach, ychwanegwyd delweddau, a chynhwysywd dyfyniadau o gyfarfodydd y Pwyllgor er mwyn i'r darllenydd gael darlun cyffredinol o adroddiad y Pwyllgor. Dyma'r fersiynau terfynol: Dyma'r fersiwn gryno o'r adroddiad: Adroddiad Cryno. ADRODDIAD LLAWN: A dyma fersiwn lawn yr adroddiad: Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PDF, 605KB) Os oes gennych amser i ddarllen y ddau, a'u cymharu, byddem yn croesawu unrhyw adborth: anfonwch at cyfathrebu@cynulliad.cymru