Rydym ar frig Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ar gyfer 2018

Cyhoeddwyd 31/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/01/2018

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr blaenllaw y DU ar gyfer 2018 ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle diweddaraf Stonewall. Dyma'r tro cyntaf inni fod ar frig y rhestr a daw ddeng mlynedd ers inni gael ein cynnwys yn y mynegai am y tro cyntaf. Ers hynny, rydym wedi gweithio'n ffordd i fyny'n raddol ac wedi ymddangos yn y deg uchaf am y pedair blynedd diwethaf. Logo Stonewall - Cyflogwr Y Flwyddyn    Logo stonewall - Prif Gyflogwr Traws Logo Stonewall - Canmoliaeth Perfformwyr Disglair        Logo Stonewall - Grwp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel

Arweinydd ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle

Mae Stonewall hefyd wedi canmol ein gwaith yn hyrwyddo, cydnabod a chefnogi cydraddoldeb trawsryweddol, gan ein nodi fel un o ddim ond 11 o sefydliadau enghreifftiol yn y DU. At hynny, mae ein rhwydwaith gweithle LHDT, OUT-NAW, wedi cael Cymeradwyaeth Uchel fel Grŵp Rhwydwaith ac rydym wedi sicrhau statws sefydliad sy'n Perfformio'n Rhagorol oherwydd ein perfformiad rhagorol cyson yn y Mynegai. Rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.

Gweithio tuag at ffyrdd mwy blaengar o weithio

Cawsom ein cynnwys yn y mynegai am y tro cyntaf yn 2008, lle'r oeddem yn safle 208 yn y DU. Ers hynny, rydym wedi gwneud newidiadau cynyddol i'n polisïau a'n gweithgareddau ymgysylltu sydd wedi arwain at ein gwelliant parhaus a'n hymagwedd tuag at gynhwysiant LHDT ac felly, ein cynnydd yn y Mynegai.
2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018
208 73 47 42 20 26 11 4 3 5 1
Rydym yn senedd fodern ac rydym yn croesawu ffyrdd creadigol o feddwl. Rydym wedi bod yn rhagweithiol ac yn flaengar yn ein hymagwedd tuag at gydraddoldeb LHDT erioed, gan greu amgylchedd a diwylliant cynhwysol drwy wneud newidiadau ystyrlon bach. Rydym wedi defnyddio dull cynyddol tuag at gynhwysiant LHDT, gan ddefnyddio adborth gan Stonewall ac arfer gorau i fod yn sefydliad blaengar. Mae bod yn gynhwysol yn ein DNA. Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a sefydlodd Comisiwn y Cynulliad fel corff corfforaethol yn nodi bod yn rhaid i'r Cynulliad wneud trefniadau priodol o ran cadarnhau bod ei swyddogaethau’n cael eu harfer gan ystyried yr egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Felly mae'n rhan o bopeth rydym yn ei wneud.

Arwain newid drwy arweinyddiaeth gref

Rydym yn falch o gael arweinyddiaeth ymroddedig a chadarn ar draws y sefydliad ac ar wahanol lefelau yn y sefydliad, o'r Llywydd, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr, i'n tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynghreiriad ac aelodau'r rhwydwaith ar draws y Cynulliad. Mae ein hymagwedd gynhwysol yn weladwy i staff ac ymwelwyr. Rydym yn chwifio baner yr enfys ar adegau penodol drwy gydol y flwyddyn, mae ein tystysgrif a'n gwobrau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle gan Stonewall wedi'u harddangos yn ein derbynfa, mae cynghreiriad ac aelodau'r rhwydwaith yn gwisgo cortynnau gwddf lliwiau'r enfys ac mae gan ein cynghreiriad arwydd ar eu desg sy'n cyhoeddi eu cefnogaeth i Gydweithwyr LHDT. Pan ymunodd un cydweithiwr â'r sefydliad, roedd yn falch iawn o'n hymagwedd tuag at gynhwysiant LHDT, gan nodi "cymerodd dair blynedd imi ddod allan yn fy hen swydd; ac fe gymerodd lai na thair wythnos imi wneud yr un peth yma. Roedd hi'n glir ar unwaith fod pawb yn derbyn pawb arall fel y maen nhw." photo - LGBT staff and allies with the rainbow flag Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae'n anrhydedd mawr cael ein cydnabod gan Stonewall fel cyflogwr blaenllaw y DU ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. "Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ei rôl yn cynrychioli pobl Cymru. "Rydym yn falch o gefnogi ein rhwydwaith staff LHDT a pharhau i weithio i greu diwylliant cynhwysol - nid yn unig i'r bobl sy'n gweithio yma ond i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ar draws cymunedau amrywiol Cymru gyfan. "Fel senedd Cymru, mae'n iawn y dylem arwain drwy esiampl i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda'r agweddau, yr arweinyddiaeth a'r penderfyniad cywir. "Mae hwn nid yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Cynulliad, ond mae hefyd yn newyddion da i staff yn y nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru a gynrychiolir yn y 100 o gyflogwyr gorau. Mae hyn yn dangos bod Cymru yn amlwg yn deall gwerth darparu gwasanaethau a pholisïau cynhwysol ac rwy'n llongyfarch pawb." Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant: "Mae hwn yn gyflawniad rhagorol sy'n dod ddeng mlynedd ers i'r Cynulliad gael ei gydnabod am y tro cyntaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. "Mae'n brawf o ymroddiad ein staff, yn enwedig ein tîm amrywiaeth a chynhwysiant, yn croesawu ac yn cynnwys cydraddoldeb LHDT ym mhob agwedd ar ein gwaith yn cynrychioli pobl Cymru. "Mae ein llwyddiant yn dangos y gall newidiadau cynyddol mewn polisi ac ymagwedd barod tuag at newid agweddau gyflawni llawer iawn a bod yn enghraifft i eraill."   I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i'n tudalennau Recriwtio.