See Change

Cyhoeddwyd 11/04/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/04/2012

Ar 5 Ebrill 2012, gwnaeth Kevin Davies (y Rheolwr Allgymorth ar gyfer De-orllewin Cymru) ymweld â Chanolfan Gymunedol Glyncoch ym Mhontypridd i gwrdd â phobl o’r gymuned leol. Trefnwyd y sesiwn hwn gan Kelly Daniel a Helen Green o Interlink fel rhan o’r rhaglen See Change. Cymerodd bobl ran mewn gweithdy a oedd â’r diben o geisio egluro’r gwahaniaeth rhwng gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, pwysigrwydd pleidleisio a pha bwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y gweithdy, nododd aelodau’r grŵp mai Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r meysydd pwnc pwysicaf y mae gan y Cynulliad bwerau drostynt, a thrafodwyd y materion lleol sy’n effeithio arnynt o ran y thema hon. Mae gwybodaeth am sut y gallwch gysylltu â’ch Rheolwr Allgymorth lleol i’w chael yma: http://www.assemblywales.org/cy/gethome/get-assembly-area.htm