#SeneddAbertawe: Y Gyfraith yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2015

Daeth Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe i’n seminar amser cinio yn ystod #SeneddAbertawe yr wythnos diwethaf. Dyma ei barn am y digwyddiad… Seminar ddifyr yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, gyda David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel rhan o SeneddAbertawe. Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth, ymarferwyr cyfreithiol a gwesteion eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau a gadeiriwyd gan Jane Williams a Keith Bush Q.C. o'r Coleg. Cafwyd trafodaethau ynghylch materion pwysig a heriol iawn, gan gynnwys yr agweddau cyfreithiol, cyfansoddiadol, gwleidyddol a dinesig ar ddatganoli, mynediad i gyfiawnder, hygyrchedd cyfraith Cymru, nodweddion y broses o ddeddfu i Gymru, cyfranogiad gwleidyddol, addysg ddinesig, pleidleisio a'r system etholiadol, mynediad i wybodaeth, awdurdodaeth ar wahân a beth yw ystyr 'cyfraith dda'. Adolygu'r gorffennol a chynnig gweledigaeth oleuedig o'r dyfodol - cafwyd trafodaeth ardderchog o hyn oll, a chinio, mewn rhyw ddwy awr! Diolch i'n gwesteion a phawb a helpodd i drefnu'r digwyddiad ac a ddaeth yma heddiw. Rydym yn benderfynol o wneud gynnal digwyddiadau fel hyn yn amlach! Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gyfreithiol, yn cyflwyno seminar ar faterion sy’n berthnasol i bobl sy’n ystyried gweithio fel cyfreithwyr yng Nghymru, a themâu cyfansoddiadol a pholisi ehangach.