Sesiwn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyhoeddwyd 26/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2012

Fel rhan o’n menter ymgysylltu allanol , cymerodd Kevin Davies (Rheolwr Cyswllt ac Allgymorth) ran mewn un o bum digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef sesiynau hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr newydd ddydd Iau 22 Tachwedd 2012 yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Gwahoddwyd Cynghorwyr o etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a drefnwyd. Roedd un o’r rheini’n canolbwyntio ar y mater o ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac â’u hetholwyr yn gyffredinol. Pan ofynnwyd i Kevin Davies pa mor bwysig oedd sesiynau o’r fath i aelodau newydd, nododd bod "y diwrnod yn gyfle gwych i roi gwybod i gynrychiolwyr lleol sut y gall eu hetholwyr gysylltu â’u Haelodau Cynulliad a chymryd rhan yn y broses ddeddfu. Mae’r Cynulliad yn annog cyfranogiad dinesig ar bob lefel, a gall unrhyw unigolyn yng Nghymru ddeisebu’r Cynulliad ynglŷn â materion y mae’n teimlo’n gryf yn eu cylch”.