Sgowtiaid Cymru - Bathodyn Her Democratiaeth

Cyhoeddwyd 24/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2014

Ar ddydd Iau 13 Mawrth a dydd Gwener 14 Mawrth 2014, bu i Sgowtiaid Afanc a Chybiau’r Sgowtiaid yn Abergele a Llanfairpwll, Gogledd Cymru, dderbyn gweithdai gan y tîm Allgymorth fel rhan o’r Her Democratiaeth. Bu i’r Sgowtiaid Afanc a Chybiau’r Sgowtiaid i gyd dderbyn y cyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a phwysigrwydd pleidleisio. Dysgon nhw pwy yw eu Haelodau Cynulliad lleol, beth mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdano yng Nghymru a phryd a lle mae Aelodau Cynulliad yn cyfarfod i drafod a dadlau gwahanol feysydd o gyfrifoldeb. Daeth y gweithdy i ben gyda gweithgaredd pleidleisio lle’r oedd yn rhaid i’r Sgowtiaid bleidleisio am y maes o gyfrifoldeb pwysicaf iddyn nhw gydag hyn yn cael ei dilyn gan drafodaeth ar sut mae’r Cynulliad yn sicrhau bod meysydd megis Addysg a’r Amgylchedd yng Nghymru yn cael ei ofalu amdano. photo2 photo3 Dywedodd Deborah Tanner, Swyddog Cynllunio a Datblygu dros ardal Sgowtiaid Eryri ac Ynys Môn a rhanbarth Dinbych, “Mae wedi bod yn dda i gael Caryl, Swyddog Allgymorth Gogledd Cymru, yn dod atom i’r sesiynau yma i weithio gydag Adran Sgowtiaid Afanc Llanfairpwll a’r adran Cybiau’r Sgowtiaid yn Abergele i ddechrau’i Bathodyn Her Democratiaeth. Mae Caryl ar adnoddau mae hi’n ei ddefnyddio, yn dangos sut mae pwnc, sydd yn hynod o bwysig ond weithiau yn medru bod ychydig yn sych, yn gallu cael ei gyflwyno mewn ffordd sydd yn sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan. Mae hyn yn dal eu diddordeb ac yn helpu i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn weithredol yn ein prosesau democratiaeth o oed ifanc iawn a bydd hefyd, rydym yn gobeithio, yn plannu’r hadau iddyn nhw allu cymryd rhan wrth ddod yn oedolion hefyd. Mae’r arweinyddion erbyn hyn yn gallu defnyddio’r gweithgareddau ychwanegol sydd wedi ei ddarparu gan y Cynulliad gyda’r bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ennill eu Bathodyn Her Democratiaeth” Os hoffech chi weld adnoddau’r Bathodyn Her Democratiaeth, ewch i’n tudalen we ni yma. Os hoffech dderbyn copiau caled o’r adnoddau hyn, ebostiwch ni ar: timallgymorth@cymru.gov.uk