Sicrhau bod gennym lais mewn cytundebau rhyngwladol

Cyhoeddwyd 15/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/04/2019

Erthygl wadd gan David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – Cynulliad Cenedlaethol Cymru. “Felly, beth sy'n digwydd pan aiff pethau i'r gwellt? Pan aiff hi'n draed moch? ” “Beth ydych chi'n ei feddwl, 'yn draed moch'? ' “Pan fydd hi'n mynd yn argyfwng arnoch chi yn y broses Brexit, a phethau'n dechrau torri i lawr, os yw'n digwydd, mae'n rhaid ichi allu edrych yn y drych a dweud 'Fe wnes i bopeth o fewn fy ngallu.' Dyna fyrdwn trafodaeth a gefais yn 2016, wrth baratoi pwyllgor Brexit trawsbleidiol y Cynulliad ar gyfer y dasg o wneud popeth o fewn ei allu i amddiffyn buddiannau Cymru wrth i'r broses o adael yr UE fynd rhagddi. Dros ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, rwy’n dal i ofyn yr un cwestiynau i fi fy hun. A yw hi'n argyfwng arnom ni eto, ac a wnaethom ni bopeth o fewn ein gallu? O nodi'r materion sydd yn y fantol i Gymru, i'w cynrychioli ym Mrwsel, Llundain, Caeredin, Belfast, Dulyn a Chaerdydd, rydym wedi gweithio'n ddiflino i nodi'r materion a fydd yn effeithio ar bobl Cymru fwyaf a gweithredu ynghylch y materion hynny. Bu'n rhaid inni fod yn hyblyg, gan addasu i newidiadau yn y trafodaethau a'r cynigion ddaeth i'r amlwg ar gyfer y DU yn dilyn Brexit. Yn ystod y mis diwethaf, bu'n rhaid inni fynd i'r afael ag agwedd newydd ar y broses, sef craffu ar gytundebau rhyngwladol. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=oQ7kudprg5k] Wrth i'r DU ymadael â'r UE, bydd hefyd yn gadael nifer o gytundebau rhyngwladol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i geisio ail-greu effeithiau'r cytundebau presennol. O safbwynt Llywodraeth y DU, mae materion rhyngwladol, a masnach yn benodol, yn aml yn cael eu hystyried yn faterion a gedwir yn ôl. Mae gennym safbwynt gwahanol. Ym mron pob achos, mae'r cytundebau hyn yn cynnwys meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru, megis amaethyddiaeth, trafnidiaeth a hawliau dinasyddion. Mae ganddynt y potensial i ail-lunio'r setliad datganoli ac, os nad yw materion sydd o bwys i Gymru yn cael eu hystyried, mae potensial y bydd sectorau yn economi Cymru o dan anfantais. Nid yw hyn yn anochel, a gallai Cymru fod ar ei hennill pe bai cytundebau rhyngwladol y DU yn cynnwys gwerthoedd a blaenoriaethau Cymru. Ond mae angen inni sicrhau mai felly y bydd hi; fel arall, sut y gallwn ni fod yn sicr y gwnaethpwyd popeth o fewn ein gallu i ddiogelu buddiannau Cymru? I wneud hyn, rydym yn astudio'r cytundebau dan sylw yn ofalus ynghyd â'r ffordd y byddant yn effeithio ar Gymru, gyda ffocws ar y cytundebau hynny lle mae pethau yn y fantol fwyaf. Ein nod yw deall sut yr ymdrinnir â meysydd datganoledig, a pha oblygiadau a allai fod i bolisi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi beth sydd wedi newid o gymharu â'r cytundebau gwreiddiol, a pha effaith y gallai'r newidiadau hyn ei chael. Lle y nodir materion gennym, rydym yn gwneud argymhellion i godi ymwybyddiaeth o bryderon Cymru, fel eu bod yn cael ystyriaeth lawn, gan sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed wrth i'r cytundebau hyn gael eu llunio.

Beth a ganfuwyd gennym hyd yn hyn?

Er i Lywodraeth Cymru wneud ei gorau glas, gwelsom nad ymgynghorwyd â hi yn briodol ynghylch rhai o’r cytundebau rhyngwladol a lofnodwyd gan Lywodraeth y DU. Mae ein gwaith eisoes wedi cyfrannu at welliannau o ran y mynediad sydd gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn. Hefyd, gwnaethom adrodd ar natur anghyflawn rhai o'r cytundebau parhad masnach, sef mater sydd wedi cael sylw yn y wasg yn ddiweddar. Gan ddychwelyd at fy nghwestiynau, a ydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu? Ar yr agwedd hon ar ein gwaith, ar hyn o bryd, rwy'n teimlo ein bod ni. A oes rhagor i'w wneud? Oes, heb os. Ac mae'n teimlo fel bod gennym bellter i fynd cyn cwblhau'r gwaith a osodwyd gennym yn 2016.
David Rees yw'r Aelod Cynulliad dros Aberafan a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru - 'Pwyllgor Brexit' y Cynulliad