Sicrhau bod y system gynllunio yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Cyhoeddwyd 10/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2014

Caerphilyjpg Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch y Bil Cynllunio (Cymru). Eglurodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: http://www.youtube.com/watch?v=-7wucPu99EI Mae cynllunio yn un o’r materion hynny sy’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd, o’r pethau mor agos adref â phrisiau tai a hyd ein taith feunyddiol i’r gwaith i faterion cenedlaethol fel mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n hawdd gweld pam y mae’r materion y mae’r broses gynllunio yn delio â hwy yn aml yn mynd yn bynciau dadleuol. Meddyliwch am y dadleuon a gawsom am leoliad ffermydd gwynt neu ddatblygiadau tai newydd. Wrth gwrs, pan ddechreuwn siarad am y broses dechnegol o gynllunio, a deddfwriaeth gynllunio, mae rhai pobl yn dechrau diflasu. Serch hynny, mae’n hanfodol gwneud hyn yn iawn gan mai’r prosesau hyn (a’r ddeddfwriaeth sy’n eu sefydlu) sy’n rhoi inni’r offer i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y gofynion croes sydd ar gymunedau, trefi, dinasoedd a chefn gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar yr hyn y mae’n credu all wella’r prosesau hyn yng Nghymru, ac mae wedi cyflwyno’r newidiadau yr hoffai eu gwneud mewn deddfwriaeth arfaethedig - sef y Bil Cynllunio (Cymru). Mae’n rhaid i ni yn y Cynulliad Cenedlaethol yn awr edrych ar y Bil hwn i weld a ddylai ddod yn Ddeddf, a sicrhau, os daw’n Ddeddf, ei fod o’r safon orau. Am esboniad llawn o’n gwaith ar y Bil hwn, ewch i wefan y Cynulliad, ond, i grynhoi, mae’r Bil hwn yn cynnig newidiadau i’r gyfraith er mwyn:
  • Mynd â rhai o’r penderfyniadau cynllunio mwy (ynghylch pethau fel prosiectau ynni ar raddfa fwy) o ddwylo eich cynghorwyr sir, a’u rhoi i Weinidogion Cymru yng Nghaerdydd i’w hystyried yn lle hynny.
  • Caniatáu i gynghorau weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â materion trawsffiniol y tu hwnt i’r hyn sy’n lleol (e.e. datblygu economaidd ar hyd Coridor yr A55 neu’r cyflenwad tai yn ardal teithio i’r gwaith Caerdydd) drwy gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Strategol;
  • Gwella effeithlonrwydd y system gynllunio; a
  • Gwneud newidiadau ynghylch ceisiadau i gofrestru meysydd tref a meysydd pentref.
Sut y byddwn yn trin y Bil hwn? Byddwn yn gofyn i arbenigwyr, sefydliadau a phobl sydd â buddiant i anfon eu barn ar y Bil atom. Yna, byddwn yn galw rhai o’r bobl a’r sefydliadau hyn i mewn i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yr wyf yn ei gadeirio, sef y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Byddwn ni’n tafoli’r dystiolaeth hon a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ynghylch a gredwn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn werth ei gwneud a byddwn hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch lle y gellir gwella’r Bil. Bydd y cam hwn yn ein gwaith yn dechrau ym mis Hydref 2014 a dod i ben yn gynnar ym mis Chwefror 2015. Gan gymryd y bydd y Bil hwn yn parhau ar ei daith, trown at fanylder y Bil. Bydd y Pwyllgor, ac yna’r Cynulliad cyfan, yn edrych ar bob llinell yn y Bil, ac os bydd Aelod Cynulliad yn credu bod angen gwella’r Bil, gall gynnig newidiadau. Enw’r newidiadau arfaethedig hyn yw gwelliannau. Trafodir y gwelliannau ac yna cynhelir pleidlais arnynt. Os cânt eu derbyn, bydd y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys y newidiadau hyn. Bydd y camau hyn yn ein hystyriaeth o’r Bil yn dechrau ym mis Chwefror 2015 ac yn para tan ddechrau Mai 2015. Yn olaf, bydd y Bil, ynghyd ag unrhyw newidiadau a wneir iddo yn ystod ein trafodion, yn destun pleidlais. Os bydd y Cynulliad yn cytuno y dylid ei wneud yn gyfraith - sef Deddf - aiff gerbron Ei Mawrhydi’r Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol. Unwaith y caiff y Bil gydsyniad Ei Mawrhydi, bydd yn Ddeddf - cyfraith - ac fe wneir y newidiadau a geisir trwyddo. Bydd hyn yn digwydd haf 2015. Os hoffech ragor o wybodaeth am y broses, ewch i ein tudalennau ar y we lle mae esboniad mwy manwl. Sut y gallwch chi gymryd rhan Os oes gennych ddiddordeb yn hynt y Bil drwy’r Cynulliad... ...mae’r Bil a’r holl ddogfennau ategol ar gael ar ein gwefan . Gallwch hefyd ddod o hyd i lincs i bob cyfarfod lle y trafodir y Bil. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar Twitter. Dilynwch @AmgylchSenedd am y newyddion diweddaraf. Os ydych am ymwneud yn fwy... ...gallwch ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, a fydd yn rhedeg rhwng 10 Hydref a 7 Tachwedd 2014. Bydd manylion yr ymgynghoriad ar gael ar ein tudalen we ar gyfer ymgynghoriadau o 10 Hydref ymlaen. Fel arall, cysylltwch ag un neu fwy o’r Aelodau Cynulliad lleol sydd gennych i drafod y Bil ac unrhyw newidiadau efallai y byddwch am eu gweld. Gwnewch hyn yn gynnar yn y broses. O ran y Bil hwn, rydym yn argymell siarad â hwy cyn y Nadolig. Mae’r camau diwygio soniais amdanynt uchod yn dechrau yn y flwyddyn newydd ac yn para tan ddechrau mis Mai. Nodyn ar y wybodaeth rydym yn chwilio amdani Cofiwch mai Bil ynghylch y prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio yw hwn, felly rydym yn ceisio sylwadau am y newidiadau arfaethedig i’r broses, nid y materion y lluniwyd y prosesau i fynd i’r afael â hwy. Er enghraifft, rydym am wybod eich barn ar Weinidogion Cymru yn cymryd penderfyniadau yn lle Cynghorwyr mewn rhai amgylchiadau, yn hytrach nag achosion cynllunio unigol, neu eich barn ar bolisïau Llywodraeth Cymru ar, er enghraifft, leoliad ffermydd gwynt.