Sicrhau Dyfodol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/04/2018

Erthygl gwadd gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gostwng bron 10 y cant mewn termau real, tra bod y Llywodraeth wedi galw ar y sector i ddibynnu llai ar wariant cyhoeddus. Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad ac fel Pwyllgor, roeddem yn teimlo mai dyma'r amser cywir i gynnal ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau i weld pa mor ymarferol yw galwad y Llywodraeth, ac i nodi camau ymarferol a fyddai'n galluogi'r sector i ymateb yn effeithiol iddo. Mae angen cyllid ar y celfyddydau er mwyn sicrhau eu dyfodol, ond sut y gellir sicrhau'r cyllid hwnnw?

Pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach

Ni ellir gwadu pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach. Mae'r celfyddydau yn goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau, ac felly maent yn rhan anhepgor o gymdeithas iach. Mae manteision y celfyddydau ar gyfer unigolion a'r gymdeithas gyfan bellach yn cael eu cydnabod yn eang. O'r effaith economaidd i fanteision ym myd addysg, dylai llunwyr polisi gydnabod, hyrwyddo a manteisio ar botensial y celfyddydau o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y gymdeithas.

Cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r celfyddydau yng Nghymru

Yn gynnar iawn yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau unigryw, amrywiol ac anodd iawn wrth geisio sicrhau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Oherwydd bod llawer o'r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn fach o ran maint ac wedi'u lleoli'n bell o ganolfannau poblogaeth mawr, mae'n anodd iddynt godi arian nad yw'n refeniw cyhoeddus. Yn benodol, o edrych ar y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddyfernir ledled y DU, mae'n syfrdanol gweld faint o'r cyllid hwnnw a ddyfernir yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Canfu astudiaeth yn 2013 fod cyfraniadau gan unigolion a busnesau i'r celfyddydau yn Llundain yn cyfrif am 85 y cant o'r cyllid cyffredinol a ddyfarnwyd ledled Lloegr.  Er nad oedd Cymru'n rhan o'r astudiaeth, mae'n debyg nad yw ein sefyllfa ni'n wahanol i ranbarthau Lloegr y tu allan i Lundain. Hyd nes i ni gydnabod a mynd i'r afael â'r sefyllfa anghytbwys hon, mae'n amhosibl gweld sut y gellir gwella'r sefyllfa'n ddigonol yng Nghymru. Mae'r ffaith bod maint a lleoliad mor bwysig i gynhyrchu refeniw masnachol yn cymhlethu'r sefyllfa ymhellach, gan ei gwneud hi'n anoddach i sefydliadau godi refeniw y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr. Mae'r rhain yn anawsterau sy'n benodol i Gymru, sy'n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu lefel ddigonol o gymorth effeithiol i gefnogi'r hyn y mae wedi gofyn i'r sector ei wneud.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

[gallery ids="3164,3163,3165"] Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymddiriedolaethau a sefydliadau'r DU o'r prosiectau a'r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd yna yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes gan y sector yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol i alwad y Llywodraeth. Roedd prinder sgiliau priodol yn y sector yn thema gyffredin yn y dystiolaeth a gyflwynwyd. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu adnodd sy'n cynnig arbenigedd ar godi arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol bach, yn debyg i'r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru. Fel y gellid ei ddisgwyl, gwelsom fod sefydliadau mwy o faint yn fwy tebygol o lwyddo wrth wneud cais am grantiau gan fod ganddynt well fynediad at sgiliau priodol (er enghraifft, o ran ysgrifennu ceisiadau effeithiol). O ystyried cyn lleied o'r cyllid sydd ar gael ledled y DU a ddyfernir y tu allan i Lundain a'r de-ddwyrain, mae'n ddealladwy bod yna gystadlu ffyrnig am yr arian sy'n weddill. Yn y fath hinsawdd, nid yw'n syndod bod sefydliadau llai yn ei chael hi'n anodd cystadlu. Mae hyn yn pwysleisio'r angen am gymorth sydd wedi'i deilwra, sy'n cydnabod anghenion a galluoedd gwahanol y sefydliadau celfyddydol ledled Cymru. Nid yw hynny'n golygu na ddylai'r rheini sy'n rhan o'r sector archwilio pob cyfle i gynyddu eu hincwm nad yw'n gyllid cyhoeddus. Cawsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth wneud ceisiadau am gyllid. Roeddem yn falch o glywed am effaith cenhadaeth fasnachu Llywodraeth Cymru i Tsieina, a oedd yn cynnwys dirprwyaeth ddiwylliannol a drefnwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cwmni theatr sy'n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu yw Hijinx, a dywedodd wrthym fod y daith hon wedi agor drysau i deithiau rhyngwladol a chydweithio yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil ar farchnadoedd rhyngwladol sy'n cynnig potensial o ran twf i artistiaid Cymru, a lle bo modd, i gynnwys elfen ddiwylliannol ar deithiau masnach, ochr yn ochr â strategaeth i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol. Ar ôl galw ar y sector celfyddydol i ddibynnu llai ar gyllid cyhoeddus, yr hyn sy’n glir yw bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig lefel briodol o gymorth goleuedig sydd wedi'i deilwra os yw’n disgwyl i’w galwad gael effaith gadarnhaol yn y sector. Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor a'i argymhellion yma. Dilynwch Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Twitter @SeneddDGCH