Stonewall yn dweud wrth bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ‘Mae’n gwella. Heddiw.’

Cyhoeddwyd 16/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/05/2012

Mae Stonewall wedi lansio ymgyrch newydd i sicrhau disgyblion ysgol lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad oes rhaid iddyn nhw aros i bethau wella yn eu bywydau – gall pethau fod yn wych heddiw. Mae gwleidyddion yn San Steffan a Bae Caerdydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â bwlio ar sail homoffobia, ac mae llawer o ysgolion, gyda chymorth ymgyrch Stonewall, sef, Addysg i Bawb, yn cymryd camau mawr i wneud hynny. Mae’r ymgyrch fideo yn ymateb i ymgyrch debyg yn yr Unol Daleithiau sy’n dangos pobl o athrawon disgyblion ysgol a’r Arlywydd Barack Obama yn dweud wrth bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol y bydd pethau’n gwella. Ym mis Medi 2010, creodd Dan Savage, y colofnydd a’r awdur, fideo YouTube gyda’i bartner Terry Miller i ysbrydoli a rhoi gobaith i bobl ifanc sy’n cael eu haflonyddu. Mewn ymateb i nifer o fyfyrwyr yn lladd eu hunain o ganlyniad i fwlio yn yr ysgol, roedden nhw am sefydlu ffordd bersonol i’r rhai sy’n eu cefnogi ym mhobman i ddweud wrth bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol fod pethau’n gwella ac nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae’r prosiect wedi datblygu’n fudiad byd-eang, gan ysbrydoli mwy na 40,000 o fideos gan ddefnyddwyr a wyliwyd fwy na 40 miliwn o weithiau. Mae’r ddwy ymgyrch yn cynnig cyfle i bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol weld sut y gall cariad a hapusrwydd fod yn realiti, ac yn gyfle i ffrindiau gwahanrywiol gefnogi eu ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd gan rannu straeon a gwylio fideos o gariad a chefnogaeth. Rhagor o wybodaeth am: