Sudan yn cwrdd â Chymru: Beth y gall Senedd Sudan ei ddysgu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru?

Cyhoeddwyd 27/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2017

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â menter pwrpas cymdeithasol, Global Partners Governance (GPG), i rannu arfer gorau â Senedd Sudan. Fel rhan o'r berthynas hon, penderfynwyd y byddai ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru o fudd i grŵp bach o Aelodau Seneddol a staff o Sudan. img_2168 Paratowyd rhaglen diwrnod a hanner o hyd ar gyfer y cynrychiolwyr. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau ar y meysydd pwnc canlynol:

Datblygiad Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad

Hyd yn hyn, nid yw Senedd Sudan wedi sefydlu Gwasanaeth Ymchwil. Atgyfnerthodd y sesiwn hon werth cael Gwasanaeth Ymchwil diduedd i gefnogi Aelodau'r Cynulliad yn eu rôl. Roedd gan y cynrychiolwyr ddiddordeb mawr yn y templedi a'r 'rheolau euraid' y mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn eu defnyddio yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd enghreifftiau yn y sesiwn hon i ddangos sut y mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth y Pwyllgorau i gefnogi ei waith. Roedd y cynrychiolwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am hyn a dangoswyd diddordeb mawr ym mhob agwedd ar y sesiwn.

Sut mae'r Cynulliad yn ymgysylltu â Dinasyddion Cymru a Chysylltu Ymgysylltiad Cyhoeddus â Busnes y Cynulliad

Dangosodd y sesiwn hon pa mor bwysig yw ymgysylltu â'r cyhoedd a chanfyddiad y cyhoedd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a pha ddulliau sy'n cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd targed.

Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Roedd hwn yn gyfle i gael ymweliad addysgol ac i gwrdd â phlant ysgol sy'n cymryd rhan. Rhoddwyd trosolwg hefyd iddynt o Wasanaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad. Dangoswyd diddordeb arbennig yn y gwaith o sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn cymryd rhan.

Cyfarfod â Chadeirydd y Cynulliad a Chlerc

Ar ôl gwylio Pwyllgor yn y Senedd, cyfarfu'r cynrychiolwyr â David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
"Roedd y drafodaeth â'r cynrychiolwyr o Sudan yn canolbwyntio ar rôl y pwyllgorau wrth graffu ar gamau gweithredu a pholisïau'r llywodraeth ynghyd â phwysigrwydd perthynas gref rhwng aelodau'r pwyllgor a staff y pwyllgor, sy'n caniatáu i'r pwyllgor fod yn effeithiol. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn gwybod sut rydym yn gweithio fel tîm i ddwyn y llywodraeth i gyfrif."
Roedd y cynrychiolwyr yn synnu bod cyfarfodydd y Pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn agored i'r cyhoedd, gan fod pob rhan o fusnes y Pwyllgor yn digwydd yn breifat yn Senedd Sudan.

Bod yn agored a thryloyw yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn olaf, arweiniodd Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd, sesiwn a oedd yn ailbwysleisio pwysigrwydd bod yn dryloywder yma yng Nghymru. Dangoswyd pa mor hawdd ydyw i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth fel Cofnod y Trafodion, gan bwysleisio ymhellach natur agored Cynulliad Cenedlaethol Cymru. IMG_2207 Cafwyd taith ddymunol o amgylch y Senedd hefyd. Ar ôl esbonio natur gynaliadwy'r adeilad, roedd yn amlwg fod diddordeb mawr gan y cynrychiolwyr mewn cynaliadwyedd. Roedd grŵp o gerddorion ifanc o'r enw 'Speelschare' yn chwarae yn y Senedd yn ystod y daith. Mwynhaodd y cynrychiolwyr y perfformiad a digwyddodd iddynt gyfarfod â'r Llywydd Elin Jones AC ar hap, a oedd hefyd yn gwylio'r perfformiad. Roedd yn rhaid manteisio ar y cyfle i dynnu llun! Wedi'r ymweliad, dywedodd ein cysylltiad GPG fod
'... Roedd y cynrychiolwyr wedi eu hysbrydoli gan y ffyrdd creadigol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithredu mewn ffordd dryloyw ac agored i'r cyhoedd, ac maent wedi trafod rhoi cysyniadau tebyg ar waith yng Nghynulliad Cenedlaethol Sudan. Roedd y cynrychiolwyr yn ystyried ffyrdd o hyrwyddo gwell ddealltwriaeth o rôl Cynulliad Cenedlaethol Sudan i'r cyhoedd. '
Roedd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, yn falch o weld y cynrychiolwyr, wedi iddo gyfarfod â llawer ohonynt wrth ymweld â Sudan fel rhan o'i rôl gyda GPG.
'Roedd yn ffantastig gweld fy ffrindiau o Sudan ac iddynt elwa ar raglen mor wych. Mae democratiaeth yn Sudan yn wynebu heriau unigryw ond hefyd rhai sy'n gyffredin i seneddau yn rhyngwladol, megis sut i ymgysylltu â'r cyhoedd a sut i wella'r gwaith o graffu ar y llywodraeth. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o seneddau ledled y byd ac mae pob un yn gweld y Cynulliad yn fodel i ddysgu ohono. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae'r ymweliad wedi dylanwadu ar ddatblygiad y senedd pan fyddaf yn dychwelyd i Sudan ym mis Hydref '