Sut bydd y system bleidleisio newydd yn gweithio ar gyfer etholiad nesaf y Senedd?

Cyhoeddwyd 30/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2025

Mae’r ffordd y byddwch yn bwrw pleidlais yn etholiadau’r Senedd yn newid

Fe welwch newidiadau yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, i sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif yn fwy nag erioed.

Beth am fwrw golwg ar y newidiadau hyn, i ddeall sut y bydd y system newydd yn gweithio?

System bleidleisio newydd 

Enw’r system newydd yw’r ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Ystyr hyn yw y bydd nifer y seddi y bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y maen nhw’n cael i raddau helaethach.

Sut mae’n gweithio

  • Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 ardal ar gyfer etholiad 2026, sef etholaethau.
  • Bydd gan bob etholaeth chwe sedd yn y Senedd, felly bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob ardal.
  • Bydd y pleidiau gwleidyddol yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol, hefyd, sefyll etholiad.
  • Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol.
  • Mae’r seddi’n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei gael.
  • Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.
  • Bydd 96 o Aelodau yn cael eu hethol i'r Senedd.

Sut mae hyn yn newid fy mhleidlais?

Defnyddir fformiwla o'r enw dull D'Hondt i wneud yn siŵr bod seddi'n cael eu dyrannu i adlewyrchu eu cyfran hwy o'r bleidlais.

Os yw Plaid A, felly, yn cael 50% o’r pleidleisiau mewn etholaeth, mae’n debygol y byddan nhw’n cael tair o’r chwe sedd. Os yw Plaid B yn cael 30%, fe fyddan nhw'n cael dwy o'r chwe sedd. Os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, fe fydd yn ennill sedd hefyd.

Fel hyn, bydd eich pleidlais yn helpu i benderfynu faint o seddi sydd gan y blaid o’ch dewis, neu ymgeisydd annibynnol.

Sut mae'r system newydd yn wahanol?

Mewn etholiadau Senedd blaenorol, defnyddiwyd cynrychiolaeth gyfrannol i ethol eich Aelodau o’r Senedd rhanbarthol.

Fodd bynnag, defnyddiwyd system y 'cyntaf i'r felin' i ethol eich Aelodau etholaeth. Dyma hefyd y system a ddefnyddir yn Etholiadau Cyffredinol y DU, i ethol eich Aelod Seneddol.

O dan y system hon y person â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Ystyr hyn yw mai dim ond y pleidleisiau ar gyfer y sawl a enillodd a gyfrannodd at y canlyniad terfynol.

Sut mae'r newid yn gwneud fy mhleidlais yn gryfach?

Yn etholiad y Senedd yn 2026, bydd yr holl seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau a gaiff pob plaid neu ymgeisydd annibynnol.

Goblygiadau’r system newydd yw bod eich pleidlais yn fwy tebygol o helpu i benderfynu ar y canlyniad cyffredinol, oherwydd bydd seddi yn y Senedd yn cael eu dyrannu ar sail cyfanswm cyfran y bleidlais.

Ystyr hyn yw y bydd cyfansoddiad terfynol y Senedd yn cynrychioli dewis pleidleiswyr ledled Cymru yn well.

 

Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth? Darllenwch ein golwg fanwl ar fformiwla D'Hondt a sut mae'n gweithio.