Sut dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei redeg yn y Pumed Cynulliad?

Cyhoeddwyd 22/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2015

  Senedd during Plenary, showing AMs in their seats Ydych chi erioed wedi pendroni pam mai un pwyllgor fu’n craffu ar Fil yn lle un arall? Ydych chi’n meddwl bod nifer yr Aelodau Cynulliad ar bwyllgorau’r Cynulliad yn briodol? A yw’r ffordd y caiff busnes y Cynulliad ei amserlennu yn caniatáu i chi ymgysylltu’n llawn yn y ffordd y byddech chi’n dymuno? Y Llywydd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Busnes, ac mae’n cynnwys Aelodau Cynulliad o bob un o’r grwpiau gwleidyddol â chynrychiolaeth yn y Cynulliad. Ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, bydd angen i’r Pwyllgor Busnes newydd wneud nifer o benderfyniadau allweddol, gan gynnwys:
  • Faint o bwyllgorau ddylai fodoli, gan gynnwys eu henwau, eu maint, a’r hyn y maent yn gyfrifol amdano. Mae rhestr gyfredol o’r pwyllgorau a’r hyn y maent yn gyfrifol amdano i’w gweld yma.
  • Mae’r amserlen wythnosol yn pennu pryd y caiff pwyllgorau gwrdd, pryd caiff grwpiau plaid gwrdd a pha Weinidogion sy’n ateb cwestiynau ym mhob Cyfarfod Llawn yn Siambr y Senedd.
  • Mae’r Pwyllgor Busnes hefyd yn chwarae rôl weithdrefnol a gall argymell diwygio Rheolau Sefydlog, sy’n gosod y rheolau a’r gofynion o ran y ffordd y mae’r Cynulliad yn cynnal ei fusnes, er mwyn newid arferion a gweithdrefnau’r Cynulliad. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2013, newidiwyd y Rheolau Sefydlog i fyrhau’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru er mwyn i’r Aelodau gael cyflwyno cwestiynau mwy amserol. Mae fersiwn gyda newidiadau wedi eu nodi (PDF, 1.54 MB) o’r Rheolau Sefydlog a newidiwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad ar gael ar wefan y Cynulliad.
  • Mae’r Llywydd a’r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cyflwyno diwygiadau gweithdrefnol ers ei sefydlu, gan gynnwys Dadleuon rheolaidd gan Aelodau Unigol a chyfle i arweinwyr y pleidiau a llefarwyr y pleidiau holi cwestiynau heb rybudd yn ystod cwestiynau i Weinidogion.
Mae’r pwyllgor presennol wedi penderfynu lansio ymgynghoriad i adolygu’r hyn a fu’n llwyddiannus a’r hyn na fu’n llwyddiannus dros y pum mlynedd diwethaf i helpu i lywio penderfyniadau’r pwyllgor newydd. Os oes gennych farn ar yr uchod, ac os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol (yn dda neu’n ddrwg) yr hoffech dynnu ein sylw atynt, byddem yn falch iawn o gael clywed gennych. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio SeneddBusiness@cynulliad.cymru. Os hoffech wybod mwy am yr ymgynghoriad, ewch i dudalen ymgynghoriad adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes. Yma fe welwch gylch gorchwyl yr ymgynghoriad a gwybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 13 Tachwedd. Bydd y Pwyllgor yn trafod eich sylwadau a byddant yn helpu wrth iddo lunio’i adroddiad etifeddiaeth. Sut i gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan