Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae ei ymchwiliad yn edrych ar ba grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.
Bydd hefyd yn ystyried a yw polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gydnabod yr anghenion cyfredol a mynd i’r afael â’r anghenion hynny.
Yn y sesiwn dystiolaeth hon, trafodwyd sut y gall cymunedau a chymdeithas hyrwyddo a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant.
Rhoddodd y bobl a ganlyn dystiolaeth:
- Yr Athro Rob Poole, Athro Seiciatreg Gymdeithasol - Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor
- Ewan Hilton, Prif Weithredwr – Platfform
- Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol - Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol
Dilyn yr ymchwiliad
Cadwch i fyny â'r holl ddatblygiadau diweddaraf yn yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.