Ar ôl i’r pleidleisiau gael eu cyfrif, rhaid i’r 96 o Aelodau sy’n cael eu hethol i'r Senedd ddewis Prif Weinidog newydd.
Sut mae'r broses yn gweithio? Dewch i weld.
Pryd mae'r Prif Weinidog yn cael ei ddewis?
Ar ôl i’r Llywydd newydd gael ei ethol, un o'i dasgau cyntaf yw goruchwylio’r broses o enwebu Prif Weinidog. Bydd hyn fel arfer yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl yr etholiad, ond gallai ddigwydd yn yr ail un.
Sut mae enwebu yn digwydd?
Mae Aelodau o'r Senedd yn ymgynnull yn y Siambr. Mae'r Llywydd yn gofyn i Aelodau o’r Senedd gynnig enwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog. Gall unrhyw Aelod o'r Senedd enwebu unrhyw Aelod arall, gan gynnwys enwebu eu hunain, i fod yn Brif Weinidog. Arweinwyr pleidiau sy’n cael eu henwebu fel arfer.
Os caiff un Aelod yn unig ei enwebu
Y person hwnnw fydd “enwebai’r Senedd” ar gyfer rôl y Prif Weinidog.
Os caiff mwy nag un Aelod enwebiad
Gofynnir i holl Aelodau o’r Senedd bleidleisio dros yr enwebai o’u dewis drwy alw’r gofrestr yn nhrefn yr wyddor. Ni all y Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.
Os caiff dau Aelod eu henwebu
Yr un sydd â mwyafrif o’r pleidleisiau fydd yr enwebai. Os bydd y bleidlais yn gyfartal, caiff pleidlais arall ei chynnal.
Os caiff mwy na dau Aelod eu henwebu
Bydd y Llywydd yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio dros eu dewis ymgeisydd, a hynny drwy alw’r gofrestr.
I ddod yn enwebai, rhaid i ymgeisydd gael mwy o bleidleisiau na'r holl ymgeiswyr eraill gyda'i gilydd.
Os na fydd neb yn gwneud hynny, caiff yr ymgeisydd â’r nifer leiaf o bleidleisiau ei dynnu o’r broses a chaiff pleidlais arall ei chynnal.
Mae’r broses yn parhau nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau o blaid pob ymgeisydd arall.
Beth fydd yn digwydd os na chaiff neb ei enwebu?
Rhaid i’r Aelodau ddewis Prif Weinidog i arwain Llywodraeth Cymru, a hynny o fewn 28 diwrnod i etholiad y Senedd (3 Mehefin 2026). Os na fydd hyn yn digwydd, bydd y Senedd yn cael ei diddymu a chaiff etholiad arall ei gynnal.
Y cam olaf: bydd y Prif Weinidog newydd yn cael ei benodi gan Ei Uchelder Brenhinol y Brenin.
Ar ôl i’r Senedd ddewis enwebai, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell penodi'r enwebai yn swyddogol yn Brif Weinidog.
Ar ôl ei benodi, bydd y Prif Weinidog yn dewis hyd at 17 o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Cymru i ffurfio Llywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth: Beth sy'n digwydd ar ôl etholiad y Senedd?