Beth sy'n digwydd ar ôl etholiad y Senedd?

Cyhoeddwyd 21/04/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2026

Nid yw pethau'n dod i ben ar ôl bwrw pleidlais yn etholiad y Senedd. Dyma ddechrau llu o weithgarwch a elwir yn "fusnes cynnar" er mwyn cael y Senedd ar ei thraed ar gyfer tymor newydd.
Gadewch i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn gyntaf un.

Mae’r pleidleisiau'n cael eu cyfrif

Bydd pleidleisiau ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 yn cael eu cyfrif yn ystod y dydd, y diwrnod ar ôl y pleidleisio, sef dydd Gwener 8 Mai 2026.

Mae’r gwaith cyfrif yn cael ei reoli'n lleol, felly bydd pob canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar amser gwahanol ym mhob ardal.

Bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd unwaith y byddant ar gael.

Mae pob Aelod yn tyngu llw

Yn y dyddiau yn dilyn yr etholiad, bydd pob Aelod etholedig yn tyngu’r llw teyrngarwch i'r brenin (neu’n rhoi’r cadarnhad cyfatebol).

Mae Aelodau o'r Senedd yn cyfarfod am y tro cyntaf

Rhaid i’r Cyfarfod Llawn cyntaf ddigwydd o fewn 14 diwrnod gwaith i’r etholiad (28 Mai 2026).

Y Llywydd presennol (sy'n aros yn y rôl nes bod Llywydd newydd yn cael ei ethol) fydd yn penderfynu ar y dyddiad a’r amser a hynny wrth ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol. Caiff ei gynnal fel arfer yn yr wythnos gyntaf ar ôl yr etholiad. Y dyddiad cynharaf ar gyfer hyn yw dydd Mawrth 12 Mai 2026.

Penodi Llywydd newydd

Yn ystod y Cyfarfod Llawn cyntaf, rhaid i'r Senedd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.

Mae rôl y Llywydd yn debyg i rôl Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a llefarwyr mewn seneddau eraill ledled y byd. Maen nhw’n cadeirio'r Cyfarfod Llawn, yn cadw trefn ac yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Dewis Prif Weinidog Cymru

Rhaid i’r Aelodau ddewis Prif Weinidog i arwain Llywodraeth Cymru, a hynny o fewn 28 diwrnod i etholiad y Senedd (3 Mehefin 2026).

Un o'r tasgau cyntaf i'r Llywydd newydd fydd goruchwylio'r broses enwebu, sydd fel arfer yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl yr etholiad.

Ar ôl ei benodi, bydd y Prif Weinidog yn dewis Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Cymru i ffurfio Llywodraeth Cymru. 

Gallant hefyd geisio cytundeb y Senedd i benodi Cwnsler Cyffredinol. Y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru ond nid oes rhaid iddo fod yn Aelod o'r Senedd.

Rhagor o wybodaeth: Sut mae Prif Weinidog Cymru yn cael ei ddewis?

Ffurfio Llywodraeth Cymru

Fel arfer, y blaid sy'n ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru.

Os na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif, yna gall dwy blaid neu ragor drafod gweithio gyda'i gilydd neu ffurfio llywodraeth glymblaid. Mae hyn yn debygol o ddigwydd os na fydd unrhyw blaid yn ennill mwy na hanner y seddi.

Os nad oes mwyafrif clir, gall trafodaethau rhwng pleidiau gymryd peth amser ar ôl yr etholiad nes iddynt ddod i gytundeb.

Ffurfio’r Pwyllgor Busnes

Ar ôl penodi Llywydd a ffurfio Llywodraeth Cymru, y pwyllgor cyntaf i'w sefydlu yw'r Pwyllgor Busnes. Fel arfer mae'n cynnwys Aelodau o bob un o grwpiau gwleidyddol y Senedd, a chaiff ei gadeirio gan y Llywydd.

Mae rôl y Pwyllgor Busnes ychydig yn wahanol i bwyllgorau eraill y Senedd. Mae'n penderfynu sut y dylid trefnu busnes y Senedd, fel dadleuon yn y Cyfarfod Llawn a Chwestiynau'r Prif Weinidog.

Un o gyfrifoldebau cyntaf y Pwyllgor fydd edrych ar opsiynau o ran amserlenni newydd ar gyfer y tymor nesaf - a phryd a pha mor aml y bydd yr Aelodau yn cyfarfod ar gyfer gwaith y Cyfarfod Llawn a phwyllgorau.

Ffurfio Pwyllgorau

Ar ôl sefydlu’r Pwyllgor Busnes, bydd yn cynnig pwyllgorau ar gyfer y Senedd newydd. Bydd yr Aelodau’n cytuno ar y pwyllgorau newydd yn ystod y Cyfarfod Llawn.

Grwpiau bach o Aelodau o’r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol yw pwyllgorau sy’n edrych ar bynciau neu faterion penodol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru. Maent yn gwirio gwaith Llywodraeth Cymru, yn edrych ar gyfreithiau, ac yn casglu tystiolaeth i awgrymu gwelliannau.

Rhagor o wybodaeth am waith y pwyllgorau.

Penodi Comisiynwyr y Senedd

Mae Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am waith y Senedd o ddydd i ddydd. 

Caiff ei gadeirio gan y Llywydd ac mae'n cynnwys pedwar Aelod arall a ddewiswyd gan y Senedd yn gynnar yn y tymor. Mae pob Comisiynydd yn goruchwylio meysydd penodol, megis cynaliadwyedd, cyfathrebu, a’r gyllideb.

 

Ar ôl rhoi’r holl bethau hyn ar waith, bydd gwaith y Senedd yn dechrau unwaith eto.

 

Ac yn olaf … agoriad swyddogol y Senedd

Caiff dechrau Senedd newydd wedi etholiad ei nodi gan ymweliad gan Ei Fawrhydi y Brenin, ac mae aelodau eraill o'r teulu brenhinol yn aml yn dod hefyd. 

 

Senedd siambr