Swyddi diogelwch, ond nid rhai cyffredin

Cyhoeddwyd 13/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2023   |   Amser darllen munudau

Rydym am gyflogi Swyddogion Diogelwch i ymuno â'n tîm. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl diogelwch arnoch i wneud cais. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn darparu rhaglen hyfforddi i chi dros gyfnod o chwe wythnos.

Diogelwch yn y Senedd

Fel Swyddog Diogelwch, byddwch yn gyfrifol am ddiogelwch Aelodau o’r Senedd, staff a phobl sy’n ymweld â’r Senedd.

Bob blwyddyn, mae’r Senedd yn denu hyd at 250,000 o ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Maent yn mynd ar deithiau o amgylch adeilad eiconig y Senedd, maent yn ymuno â digwyddiadau, maent yn ymweld ag arddangosfeydd, ac maent yn gwylio’r trafodion.

Mae’r Senedd hefyd yn cynnal digwyddiadau mawr fel ymweliadau gan y Teulu Brenhinol, dathliadau ar gyfer y Gamp Lawn, a digwyddiadau i groesawu'r rhai o Gymru a gymerodd ran yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

A oes gennych chi'r hyn sydd ei angen arnom?

Rydym yn chwilio am bobl sy'n gweithio'n dda mewn tîm, sydd â barn gadarn, ac sy'n gallu gweithredu mewn modd pendant a chyfrifol mewn amgylchedd prysur iawn.

Bydd angen i chi ymateb yn ddigynnwrf a phroffesiynol mewn sefyllfaoedd anodd, a bydd gofyn i chi ddarparu gwasanaeth proffesiynol a chwrtais i gynulleidfaoedd amrywiol.

Os yw hyn yn apelio atoch, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Cofiwch: nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl diogelwch arnoch.

Sut brofiad yw gweithio yn y Senedd?

Dyma beth oedd gan rai o Swyddogion Diogelwch y Senedd i’w ddweud am weithio yn y sefydliad…

Cerys

Nid wyf erioed wedi cael profiad diogelwch mewn swyddi blaenorol, felly roeddwn i'n nerfus i wneud hyn, ond roeddwn i'n teimlo croeso gan yr adran gyfan ac rydw i wedi mwynhau defnyddio a datblygu fy sgiliau mewn amgylchedd gwahanol.

Shahzad 

Roeddwn mor falch o fod yn gludwr y byrllysg i’r Frenhines ar gyfer agoriad y Chweched Senedd!

Llun: Shahzad yn cario'r byrllysg ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd

Calum

Rwyf wedi bod yn aelod o’r tîm Diogelwch ers dau fis, ac roeddwn yn teimlo’n rhan o’r tîm yn syth bin. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ac rwyf wedi cael cyfleoedd i symud ymlaen. Rwy'n mwynhau'r swydd gan eich bod yn cael amrywiaeth o dasgau a chyfrifoldebau sy'n gwneud i chi deimlo'n fwy ymgysylltiol a bodlon.

Gan fy mod yn siarad Cymraeg yn rhugl, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig ymgysylltu â staff ac ymwelwyr yn Gymraeg. Rwy’n hyrwyddo hyn drwy wisgo’r bathodyn Cymraeg ar fy ngwisg sy’n annog unigolion i gyfathrebu â mi yn Gymraeg. 

Stacey 

Mae'n rôl amrywiol ac nid oes dau ddiwrnod sydd yr un peth. Rydyn ni’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sefydliad cyfan a gydag aelodau o'r cyhoedd o bob cefndir.

Rydyn ni hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn digwyddiadau mawreddog fel digwyddiadau croesawu tîm rygbi Cymru, croesawu Geraint Thomas a thimau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain Fawr.

Llun: Digwyddiad croesawu i'r tim Olympaidd a Pharalympaidd yn y Senedd 

Pam ddylech chi weithio i ni?

Mae’r Senedd yn lle cyffrous i weithio ynddo. Pan fyddwch yn gweithio yma, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • Cyflog: £21,475 - £25,303
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, ac 11 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint y flwyddyn.
  • Gweithio 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos, rhwng 07:00 a 22:00. Bydd y dyddiau gwaith yn amrywio ac yn cynnwys gweithio ar benwythnosau yn rheolaidd ac ar wyliau cyhoeddus a gwyliau braint.
  • Rhaglen hyfforddiant diogelwch dros gyfnod o chwe wythnos a hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid.
  • Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
  • Cynllun Pensiwn Principal y Gwasanaeth Sifil
  • Mynediad at y gwasanaeth iechyd galwedigaethol, y Rhaglen Cymorth i Weithwyr a rhwydweithiau cefnogol ar gydraddoldeb yn y gweithle.
  • Absenoldeb mamolaeth, maeth a mabwysiadu hael, a rhannu absenoldeb rhieni.

Darllenwch fwy am weithio i’r Senedd

Gwnewch gais nawr!

Os oes gennych y sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais drwy ein porth recriwtio.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9 Gorffennaf.

Gwnewch gais nawr