#SwyddiPoblIfanc

Cyhoeddwyd 02/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/04/2015

Mae trafnidiaeth, diffyg sgiliau i fod yn rhan o'r gweithlu, problemau gyda phrofiad gwaith, cyngor gyrfaol, a thrafferthion o ran cael gafael ar brentisiaethau, ymhlith y pethau a nodwyd gan bobl ifanc wrth drafod y rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth iddynt chwilio am waith. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cadw llygad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian, a pha effaith y mae eu polisïau yn ei chael ar bobl Cymru. Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes, wedi edrych i mewn i'r heriau a wynebir gan bobl ifanc pan maent yn ceisio dod o hyd i waith. Gwnaeth pobl ifanc o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn cyfweliadau fideo gyda thîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol, a ddangoswyd i'r Aelodau Cynulliad ar y Pwyllgor. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad yn Abertawe lle bu'r aelodau'n siarad â staff y rheng flaen sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn eu cefnogi o ddydd i ddydd. Gwnaethant ddweud wrth y Pwyllgor beth yw'r problemau yn eu barn hwy, a sut y gellir mynd i'r afael â hwy. Dyma rai lluniau o'r digwyddiad: Youthjobs3   Youthjobs2jpg Youthjobs1 Ar ôl y digwyddiad, siaradodd aelodau'r Pwyllgor â phobl mewn cyfarfodydd swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae'r Pwyllgor wedi llunio adroddiad y mae wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar bethau y cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ifanc ddod o hyd i waith. Mae'r fideo hwn yn dangos beth ddywedodd y bobl ifanc wrthym, a'r argymhellion y mae'r Pwyllgor wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=dqqNYuJywEw&w=560&h=315] Gallwch hefyd ddarllen crynodeb o'r adroddiad yma. (PDF 188KB) Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf
  • Hafan y Pwyllgor i gael gwybodaeth am yr ymchwiliadau cyfredol a’r ddeddfwriaeth y mae’r Pwyllgor yn ei thrafod.
  • Dilynwch @SeneddBusnes i gael y wybodaeth ddiweddaraf.