System anrhydeddau i Gymru - Mynnwch Lais

Cyhoeddwyd 08/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2010

Gan ein bod wedi cael ymateb mor dda i’r cais am safbwyntiau ar system anrhydeddau i Gymru, rydym yn gadael y blog ar agor ar gyfer sylwadau am wythnos ychwanegol tan 19 Chwefror.  Yna bydd y sylwadau yn cael eu coladu a’u trafod gan y Pwyllgor Deisebau ar 9 Mawrth.    Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yma, unwaith i’r Pwyllgor drafod eich sylwadau. Diolch am eich cyfraniadau hyd yn hyn.

****

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried deiseb sy’n galw am gyflwyno system anrhydeddau i Gymru ac mae’n awyddus i glywed eich sylwadau am hyn. A ydych chi’n credu bod hwn yn syniad da ai peidio? Beth yw eich barn am hyn? Os ydych yn credu bod hwn yn syniad da, pwy hoffech chi weld yn cael eu hanrhydeddu? Pa fath o weithgareddau rydych chi’n credu ddylai gael eu hanrhydeddu, a sut fath o anrhydeddau y dylid eu rhoi? A oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill ynghylch y mater? Rhowch eich sylwadau isod, neu gallwch eu hanfon ar neges e-bost atom ni, petition@cymru.gsi.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom: Clerc y Pwyllgor Y Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caerdydd CF99 1NA Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi gofyn am farn pobl ar y mater hwn o’r blaen, ond mae’n gwneud hynny eto er mwyn sicrhau bod rhagor o bobl yn cael cyfle i fynegi barn. Os hoffech gael y diweddaraf am y mater hwn, cadwch lygad ar y blog hwn, gan y byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr ymatebion a gafwyd. Caiff yr holl sylwadau a roddir ar y fforwm drafodaeth eu cymedroli gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru o flaen llaw, sy’n golygu na fydd sylwadau a gyflwynwyd yn ymddangos ar unwaith ar y wefan. Bydd y gwaith cymedroli’n digwydd rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio dyddiau gŵyl y banc).