Taro’r Tant: Ymchwiliad i Ariannu Addysg Cerddoriaeth a Gwella Mynediad Ati

Cyhoeddwyd 14/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/06/2018

Cyfweliad gyda Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Cyflwynwch eich hunan ac esboniwch yn fras gylch gorchwyl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Fy enw i yw Bethan Sayed, ac rwy'n cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. [caption id="attachment_3216" align="alignnone" width="1108"]Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad yn nigwyddiad lansio'r adroddiad. Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad yn nigwyddiad lansio'r adroddiad.[/caption] Rydym yn craffu ar weinidogion y llywodraeth mewn perthynas â'u portffolio. Er enghraifft, rydym wedi gwneud ymchwiliad i radio yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym wedi edrych ar y Gymraeg ac rydym hefyd wedi edrych ar yr amgylchedd hanesyddol, yn ogystal â chyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y Celfyddydau. Mae wedi bod yn dda i ni allu cael cylch gwaith sy'n cynnwys cyfathrebu fel y gallwn edrych ar dirwedd darlledu Cymru a chraffu ar honno'n effeithiol hefyd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd gyhoeddi ei adroddiad ar ei ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth yng Nghymru a mynediad ati. Dewiswyd pwnc yr ymchwiliad hwn trwy ffordd eithaf arloesol ac ychydig yn anarferol.  A allech esbonio'r cefndir a'r hyn a arweiniodd y Pwyllgor i edrych ar y mater penodol hwn? Ar ôl bod ar bwyllgorau ers cryn amser, gwn fod gan Aelodau'r Cynulliad eu syniadau eu hunain ac yn cynnig syniadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol, sy'n ddilys, ond gallent fod yn seiliedig ar ein hoff bynciau ein hunain. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddiddorol mynd at aelodau'r cyhoedd i ofyn iddynt yn union pa fath o ymchwiliad yr hoffent i ni ei ystyried a'r hyn roedd y boblogaeth am i ni ganolbwyntio arno, a'r hyn oedd y meysydd blaenoriaeth allweddol. Cynaliasom arolwg cyhoeddus a'r canlyniad oedd bod pobl am i ni ystyried cerddoriaeth mewn addysg. Hynny yw addysg cerddoriaeth a gaiff pobl mewn ysgolion ac yn ein cymunedau a sut y gellir ei gwella a'i datblygu. Roedd yn syniad eithaf da cynnal yr arolwg cyhoeddus hwn oherwydd y gallai pobl ymgysylltu â phwyllgor mewn ffordd wahanol iawn. Felly, roeddwn yn fodlon mai ein pwyllgor ni oedd y cyntaf i roi cynnig ar hyn ac efallai y gallem ei wneud eto i feddwl am syniadau eraill ar gyfer y dyfodol. Beth oedd y themâu allweddol yn yr ymchwiliad? Roeddent yn awyddus iawn i ni edrych ar wasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion. Roedd etholwyr yn dod i'n swyddfeydd yn dweud bod problemau gyda chyllid y sector hwn. Roeddem yn gweld toriadau i wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol. Felly, roeddem am fynd i'r afael â'r hyn oedd yn bwysig a meddwl am atebion i weld sut y gallem gynorthwyo'r sector. Ni wnaethom ystyried y cwricwlwm, oherwydd bod addysg cerddoriaeth o ran darparu gwasanaeth tiwtora'n wahanol iawn i hynny. Mae hynny'n rhywbeth y gallem ei ystyried yn y dyfodol. Ond nid dyna'r hyn roeddem yn canolbwyntio arno y tro hwn. Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan ystod eang o dystion ac, o ystyried eich profiadau eich hunan fel cerddor, mae'n rhaid bod y pwnc hwn yn agos iawn at eich calon - oedd unrhyw beth a gododd yn ystod yr ymchwiliad a oedd yn syndod arbennig?  Pan aethom i Ysgol Pengam, canfuom fod gwaith strwythuredig iawn yn cael ei wneud ym maes roc a phop, a'u bod yn cystadlu mewn cystadlaethau yn Lloegr, ond nid oeddent yn gallu gwneud hynny yng Nghymru ac nid oedd dim ensemble. Mae ensemble ar gyfer y gerddorfa, yma yng Nghymru ond dim ensembles roc a phop. [caption id="attachment_3212" align="alignnone" width="844"]Maya Morris o Ysgol Lewis Pengam yn perfformio yn ystod y digwyddiad lansio Maya Morris o Ysgol Lewis Pengam yn perfformio yn ystod y digwyddiad lansio[/caption] Felly, rwy'n tybio mai'r hyn a wnaeth fy synnu, efallai oherwydd fy mod wedi dod o'r ochr fwy clasurol, yw bod cymaint o frwdfrydedd i sefydlu'r ensemble hwn fel y gallai pobl a oedd am fynd i'r diwydiant roc neu bop wneud hynny trwy eu strwythurau ysgol. Felly, roedd hynny'n agoriad llygad, ond hefyd yn bleser ei weld, oherwydd nad yw cerddorfeydd ac ensembles bob amser yn addas i bawb. Nid oes rhaid i chi allu darllen cerddoriaeth i gymryd rhan yn y mathau hynny o weithgareddau, felly byddai'n agor llwybr newydd. O ran y ffrydiau ariannu, nid oedd hynny'n fy synnu, oherwydd bod fy chwaer yn 18 oed ac mae wedi mynychu cerddorfeydd ac rwy'n gwybod, o'm diddordeb cyson yn y mater hwn, nad peth newydd yw'r gostyngiad cynyddol hwn yn narpariaeth gwasanaethau. Mae'r adroddiad yn dweud bod yn rhaid i wasanaethau cerddoriaeth gael eu diogelu a'u meithrin a bod yn hygyrch i bawb.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi gweithgarwch creadigol ar sail gyfartal â meysydd dysgu a phrofiad eraill.  Pam mae addysg cerddoriaeth mor bwysig? Beth yw'r manteision?  Rwy'n credu bod llawer o ysgolion yn deall y drefn o ran cerddoriaeth oherwydd eu bod yn deall ei bod yn sgil y gellir ei drosglwyddo – mae'n ymwneud â gweithio fel tîm, mae'n ddisgyblaeth, mae'n galluogi pobl i fod yn greadigol ac i'w nodau llesiant gael eu diwallu. Ond, mewn rhai ysgolion, oni bai bod y pennaeth wir yn deall gwerth cerddoriaeth, efallai na fydd yn treiddio trwy'r ysgol. Fel rhywun sydd wedi canu'r piano, y fiola a'r feiolin ers i mi fod yn ifanc, rwy'n credu bod yn rhaid ystyried nad yw'n rhywbeth arbenigol nac yn unigryw, a'i fod yn hygyrch - oherwydd y gall eich helpu mewn cynifer o ffyrdd gwahanol mewn bywyd. Er enghraifft, byddai cwrs cerddorfa yn fy ngalluogi i ddod yn annibynnol. Byddai'n gyfle i mi wneud ffrindiau newydd. Rhaid i chi ddysgu gwrando ar eraill a gallu eu parchu, felly nid yw'r cyfan yn ymwneud â'r gerddoriaeth sydd ar y papur - mae'n ymwneud â sut rydych am ddatblygu fel unigolyn. Gall pobl sy'n mynd i fyd cerddoriaeth yn ifanc fynd â'u sgiliau i gyfeiriadau eraill a byddwch yn cwrdd â meddygon, gwyddonwyr a gwleidyddion sydd wedi defnyddio cerddoriaeth mewn ffyrdd iddynt ganolbwyntio ar yr hyn y maent am ei wneud mewn bywyd. Rwy'n credu bod angen i ni annog mwy o ysgolion i ddeall nad yw'n rhywbeth dibwys, lle mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth neu'n ei chwarae am awr y dydd. Mae'n ymwneud â sut y gellir ystyried hynny'n rhan greiddiol o'r cwricwlwm ym mhob lliw a llun. Trwy'r adroddiad hwn, rwy'n gobeithio y gallwn argyhoeddi pobl y gallwn dyfu a datblygu cerddoriaeth yn ein hysgolion. Gyda'r holl fanteision posibl hynny, rhaid y bu'n anodd i'r Pwyllgor glywed rhai tystion yn disgrifio sefyllfa cerddoriaeth yn addysg Cymru fel ‘argyfwng’.  Ym mis Gorffennaf 2015, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad i wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru - Beth fu casgliad y Pwyllgor ynghylch y cynnydd a wnaed yn y 3 blynedd ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw - a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i atal yr ‘argyfwng’ hwn rhag datblygu? Roedd yn anodd iawn clywed pobl megis Owain Arwel Hughes, sy'n arweinydd enwog, Tim Rhys-Evans, sy'n arwain Only Men Allowed, yn dweud y pethau hyn, oherwydd nad ar chwarae bach y byddent yn defnyddio'r gair ‘argyfwng’. [caption id="attachment_3215" align="alignnone" width="1108"]Tim Rhys-Evans Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Rhys-Evans, sylfaenydd a chyfarwyddwr Only Men Allowed[/caption] Mae Cymru yn gysylltiedig â cherddoriaeth a chân, felly mae'n fy mhoeni i eu bod yn dweud ‘efallai nad gwlad y gân fyddwn mwyach os ydym yn caniatáu hyn, lle mae gwasanaethau cerddoriaeth yn cael eu torri, a gallant hyd yn oed ddiflannu mewn rhannau o Gymru’. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld gyda'r ensembles cenedlaethol fod llai o bobl wedi bod yn clyweld ar eu cyfer eleni, felly mae hynny'n bryder. Hefyd, o ran yr adroddiad a gomisiynwyd, ar ôl i weinidogion penodol adael, rwy'n teimlo nad oedd yn flaenoriaeth i rai awdurdodau lleol. Rwy'n credu mai dyna pam ein bod wedi dweud mor amlwg yn yr adroddiad fod angen arweiniad cenedlaethol a strategaeth genedlaethol, oherwydd na allwch ddibynnu ar awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod rhai pobl, a bod yn deg, wedi dweud ‘wel efallai bod hynny'n mynd ychydig yn rhy bell, nid ydym am godi bwganod’. Ond eto, weithiau gall defnyddio'r mathau hynny o ymadroddion ddweud ‘wel nawr yw'r adeg i sicrhau nad ydym yn cyrraedd y sefyllfa lle nad yw'r gwasanaethau hynny yn bodoli mwyach’. Rwy'n gobeithio bod ein cymorth wedi golygu y gellir cynnal y drafodaeth honno ar yr adeg iawn cyn i fwy o wasanaethau cerdd gael eu torri neu ddiflannu'n gyfan gwbl’. Mae'r adroddiad ei hun yn cynnwys 16 o argymhellion ond beth yw'r mater pwysicaf sy'n codi o'r canfyddiadau? Wel, roeddem am ddod o hyd i atebion oherwydd bod hyn wedi bod yn agos at fy nghalon ers blynyddoedd lawer.  Mae'n bosibl bod diffyg cydweithredu yn y gorffennol gan bobl o gefndiroedd gwahanol yn y gwasanaeth cerddoriaeth i ddweud ‘wel mewn gwirionedd, sut gallwn wneud i hyn ddigwydd a sut y gallwn wella ar hyn?’ Croesawais fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o ran y gronfa waddol, mewn perthynas â'r amnest cerddoriaeth ac o ran rhoi cerddoriaeth ar yr agenda wleidyddol eto. Ond, heb newid strwythurol, nid yw pethau'n mynd i wella. Felly, yr argymhelliad pwysicaf i ni oedd dweud bod angen i ni sefydlu corff hyd braich cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru.  Ni allwn ddibynnu ar awdurdodau lleol unigol mwyach yn penderfynu a ydynt yn blaenoriaethu hyn ai peidio. Rhaid i ni sicrhau y câi ei ariannu'n briodol, ac y byddai elfen ranbarthol i'r dull cyflwyno ar lawr gwlad. Ar hyn o bryd, rydych yn ystyried gwaith ensembles cenedlaethol mewn math gwahanol o dirwedd i'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Fe'i gelwir ‘y pyramid’, felly y cerddorfeydd ysgolion sydd gyntaf, yna mae'r cerddorfeydd cymunedol, yna mae'r ensembles cenedlaethol. Pe bai un corff cenedlaethol - byddai'n canfod pobl ifanc i ddod trwy'r system, a dyna'r hyn nad ydym yn ei weld ar hyn o bryd. Cafwyd trafodaeth a ellid ei wneud mewn ffordd wahanol ond, yn y pen draw, rwy'n credu y daethom i'r casgliad - yn enwedig gan ein bod yn galw am strategaeth gerddoriaeth genedlaethol - y byddai un corff cenedlaethol i ymdrin â'r elfen benodol hon o'r gweithlu addysgol yn rhan annatod o'i ddyfodol. Fel pwyllgor, rwy'n credu ein bod am iddo fod yn flaengar. Roeddem am wneud argymhelliad a fyddai'n herio syniadau pobl ac y byddent yn ystyried pethau ychydig yn wahanol i'r cyllid presennol a'r strwythurau presennol. Hefyd, ni fyddem am adael unrhyw un o'r ardaloedd penodol hynny ar ôl. Nid oeddem am fod yn rhy argymhellol, ond roeddem am osod ein marc a dweud ‘rhaid i hyn fod yn system genedlaethol bellach’. I lawrlwytho Taro'r Nodyn Cywir: Ymchwiliad i Arian Ar Gyfer a Mynediad i Addysg Cerddoriaeth, cliciwch yma Am y diweddaraf gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dilynwch @SeneddDGch ar Twitter.