Tîm Allgymorth a Chyngor ar Bopeth - Gweithdai Deall ac Ymgysylltu

Cyhoeddwyd 29/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/05/2013

Ar 15 a 17 Mai 2013, bu staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr o ganolfannau Cyngor ar Bopeth ar draws Cymru mewn gweithdai Allgymorth yn ymdrin â deall ac ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd a’r ail yn Swyddfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gogledd, ym Mae Colwyn. Roedd Aelodau Cynulliad yn bresennol yn y gweithdai, gan roi cyfle i gyfranogwyr drafod amryw o faterion. Roedd Lynne Neagle AC ac Alun Ffred Jones AC yn bresennol yn y gweithdy ym Mae Caerdydd a Janet Finch-Saunders AC a Mark Isherwood AC yn bresennol yn y gweithdy ym Mae Colwyn. Cafwyd dau ddiwrnod llwyddiannus gyda chyflwyniadau gan Swyddogion Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Swyddogion Allgymorth Senedd y Deyrnas Unedig. Roedd y cyfranogwyr wedi mwynhau eu hunain yn fawr, gydag un yn ystyried hyn yn gyfle gwych i ryngweithio a’i Aelodau Cynulliad lleol; “Roedd siarad hefo’r Aelodau yn hynod o ddefnyddiol. Roedd y sesiwn yn gyfle i mi ddod i ddeall mwy am eu rôl a defnyddiais y cyfle i roi cipolwg iddynt o’r gwaith rydym yn ei wneud.” Os hoffech gael gwybodaeth am ein gweithdai Allgymorth anfonwch e-bost i: timallgymorth@cymru.gov.uk