Cyhoeddwyd 19/06/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2013
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn helpu Cybiau Cymru i ennill eu bathodynnau Her Democratiaeth wrth i ystod o adnoddau newydd gael eu lansio yn nigwyddiad Hwyl a Sbri Cymru-gyfan y Cybiau ddydd Sadwrn, 15 Mehefin 2013 yn Llanfair-yn-muallt.

Mae'r bathodyn Her Democratiaeth yn annog pobl ifanc i ymchwilio a dysgu am brosesau democrataidd Cymru, y Deyrnas Unedig ac awdurdodau lleol Cymru, er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ac i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Fel rhan o'r bathodyn Her Democratiaeth, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu adnoddau a fydd yn helpu Sgowtiaid o bob oed i fodloni rhai o'u gofynion mewn modd ryngweithiol, llawn hwyl.
Fynychodd hyd at 3,000 o Gybiau rhwng 8 a 10 oedd i’r digwyddiad, yn ogystal â thros 800 o oedolion.

Am rhagor o wybodaeth am Her Democratiaeth dilynwch y linc yma: http://www.scoutswales.org.uk/node/154