Tuag at Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Cyhoeddwyd 13/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/12/2017

Cyflwynodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, darlith flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru (Prifysgol Caerdydd) ddydd Mercher, 6 Rhagfyr, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. Mae fideo llawn o'r ddarlith ar YouTube neu gallwch ddarllen y trawsgrifiad isod... https://www.youtube.com/watch?v=zVANVenbbd8 Mae'n bleser gen i fod gyda chi heno ac rwy'n ddiolchgar i chi, Canolfan Llywodraethiant Cymru, am y gwahoddiad a'r cyfle i draddodi'r ddarlith hon wrth i dymor arall ac yn wir blwyddyn arall ddirwyn i ben.

Tymor anodd

Nid yw'r misoedd diwethaf wedi bod yn hawdd, â dweud y lleiaf. Mae'r tristwch a ddaeth i'r Cynulliad yng ngoleuni marwolaeth Carl Sargeant wedi dod ag ystod lawn o emosiynau, cwestiynau ac adweithiau a fydd, yn sicr, yn parhau am nifer o fisoedd i ddod.  A thrwy hynny oll, fel Llywydd, bu'n ddyletswydd arnaf i sicrhau bod ein Cynulliad yn trin teulu Carl gyda'r parch y maent yn ei haeddu, a bod ein Haelodau wedi gallu nodi colli cydweithiwr agos â'r urddas a ddisgwylir gan ein deddfwrfa ddemocrataidd genedlaethol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod ein siambr gylchog berffaith fach ni yn rhoi cryfder i'n gwleidyddion - ar adegau craffu pan fyddant am herio, gwrthdaro neu ddadlau, neu ar yr achlysuron prin hynny, pan fyddwn ni am uno - weithiau i herio, ond hefyd i fynegi galar a balchder.  Yn ystod y cyfnodau hyn yr wyf yn fwyaf balch o fod yn Llywydd - pan fydd ein sefydliad democrataidd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer mynegiant cenedlaethol ar y cyd.  Ac yn ystod yr amseroedd anodd, mae'r Cynulliad yn dangos gwir wytnwch a dygnwch. I mi, oedd yn aelod o ddosbarth '99 y Cynulliad, ac yn ddigon hen i gofio siom '79, mae'r gwytnwch hwn yn parhau i fod yn ffenomen ryfeddol.  I rai yma heno, dyma'r hyn y maent wedi bod yn ymwybodol ohono erioed  ac wedi dod i'w dderbyn a'i ddisgwyl gennym ni.

Cenhedlaeth Brett a Wil

Mae yna rai myfyrwyr gwleidyddiaeth ifanc blwyddyn gyntaf yn y gynulleidfa heno sydd wedi gwneud cryn argraff arnaf dros yr wythnosau diwethaf - efallai y byddwch wedi gweld Geneva, Aisha, Brett a Wil ar y Sunday Politics Show yn ddiweddar, gan siarad yn huawdl ynghylch sut y gallwn ni wneud gwleidyddiaeth a'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru yn well ar gyfer y genhedlaeth nesaf.  Dyma'r genhedlaeth sy'n eiddgar ac yn barod i gymryd y baton i mewn i ganol y ganrif hon - os nad cyn hynny. Roedd Brett a Wil eisoes wedi sicrhau prif rôl ar y teledu ychydig wythnosau'n gynharach pan aethant nerth eu traed, yn llawn cyffro, i Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ar ôl clywed bod yna ail-drefnu ar y gweill.  Fe wnaethon nhw ddatgan hyn ar Twitter - rwy'n credu fy mod wedi ail-drydaru un ohonynt - a chael eu cyfweld gan ITV Cymru yn ddiweddarach.  Ac yn ystod trafodaeth gyda'r gohebydd Rob Osborne, dywedant, er mawr syndod, nad oedd ganddynt unrhyw gof o gwbl o adeg pan nad oedd Jane Hutt yn Weinidog y Llywodraeth. Wrth wrando arnyn nhw'n siarad, dechreuais feddwl am eu hoedran, yr wyf wedi cael cadarnhad ohono ers hynny, a gweithiais allan yr oeddwn yn ymgyrchu fel ymgeisydd yn  etholiad cyntaf erioed Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan oedd pob un o'r myfyrwyr hyn - neu 'pundits' gwleidyddol, fel yr wyf yn siwr yr hoffen nhw gael eu galw erbyn hyn - yn cael eu geni, sef rhwng mis Gorffennaf 1998 a mis Chwefror 1999. Fel un a ystyriwyd yn un o'r 'to ifanc' a dderbyniwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf hwnnw, mae'n beth digon dychrynllyd i sylweddoli eich bod wedi bod yn Aelod etholedig trwy gydol oes cenhedlaeth newydd gyfan.  I fynd â hi gam ymhellach, nid yw Wil, sydd o Aberystwyth, erioed wedi cael Aelod Cynulliad arall ar wahân i Elin Jones. Hir oes i hynny felly! Dyma'r genhedlaeth sy'n ystyried Rhodri Morgan a Carwyn Jones fel enwau adnabyddus bob dydd. Mae Brett yn adrodd stori ddoniol am sut y bu ar wyliau unwaith mewn carafán ar yr un safle â Rhodri Morgan.  Iddo ef roedd yn beth arferol, naturiol i wersylla mewn cae glaswellt wrth ymyl arweinydd llywodraeth eich gwlad. I Brett, Wil, Aisha a Geneva - dyma'r Gymru maen nhw'n ei hadnabod, dyma pwy ydym ni.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gymaint o ran o hunaniaeth y genedl hon â Chalon Lân, Parc y Sgarlets neu Gareth Bale. Bellach mae tair cenhedlaeth o ddatganolwyr Cymreig - yr ymladdwyr, y sylfaenwyr a'r dyfodol:
  • Yr ymladdwyr yw'r rhai a dreuliodd y rhan fwyaf o'u bywydau yn brwydro am hunan-lywodraeth, dim ond i lwyddo ac yna ei drosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf
  •  Y sylfaenwyr yw'r rhai ohonom sydd wedi bod â'r ddyletswydd i ymgorffori lle a statws y Cynulliad ym meddylfryd y genedl ac i gadarnhau'r sylfeini y cafodd ei adeiladu arnynt.
  • Ac yna mae'r dyfodol, y genhedlaeth nesaf - y rheini sydd am gydio yn y peth a gwneud iddo ffynnu. A dydw i ddim ond yn sôn am ein gwleidyddion y dyfodol.  Mae hyn yn berthnasol i'n harweinwyr y dyfodol mewn meysydd eraill hefyd, sy'n cyfrannu at wleidyddiaeth Cymru y tu allan i'r maes etholedig: yr academyddion, yr economegwyr, y gwneuthurwyr polisi, yr ystadegwyr, yr etholiadegwyr a'r sylwebyddion.  I'r bobl hyn - yn wir i holl bobl Cymru, p'un a oes ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ai peidio - mae gennym ddyletswydd i gryfhau craidd ein sefydliad democrataidd.

Fframwaith sefydliadol bregus Sheen

Yn ddiweddar, gofynnodd yr actor Michael Sheen, yn ystod darlith ym Merthyr Tudful, y cwestiwn 'Pwy sy'n siarad dros Gymru?' a dywedodd ein bod fel cenedl wedi cael anhawster i ddod i delerau gyda'n gorffennol.  Nid wyf yn anghytuno, ond yr hyn sy'n rhoi gobaith i mi yw bod hyn yn ymddangos yn gymaint llai o beth wrth siarad â'n cenhedlaeth iau.  Mae yna gymaint llai o feichiau o'r gorffennol, llai o bethau yn eu dal yn ôl - llai o wrthdaro rhwng y ffactorau amrywiol sy'n cyfoethogi ein hunaniaeth, ond sydd, yn y gorffennol, wedi bod yn bethau sydd wedi ein rhannu yn ein gwleidyddiaeth. Yr wyf yn sicr yn hyderus bod cenhedlaeth y dyfodol o ran gwleidyddion Cymru neu gynorthwywyr gwleidyddol neu weision sifil yn fwy hyderus, ac yn falch hyd yn oed o ddemocratiaeth Gymreig a sut mae'n dechrau ffurfio. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posibl i wneud iddi lwyddo, a hynny er lles pobl a chymunedau Cymru.  Rhaid inni hefyd sicrhau bod ganddynt yr hyder i herio, craffu a siarad y gwir wrth rym er mwyn sicrhau democratiaeth fywiog, iach. Soniodd Michael Sheen hefyd am fframwaith sefydliadol yng Nghymru sy'n fregus.  Unwaith eto, nid wyf yn anghytuno, ond rwyf hefyd yn meddwl ei fod o fewn ein gallu nawr i wneud rhywbeth amdano.  A'r hyn mae hynny'n ei olygu o ran ein Cynulliad yw bod gennym nawr y pwerau, trwy Ddeddf Cymru 2017, i greu democratiaeth seneddol sy'n wirioneddol yn gweithio i Gymru.

Newid yr enw

Ac mae'n wir bod Comisiwn y Cynulliad nawr yn argymell y dylem newid enw'r sefydliad, o Gynulliad i Senedd Cymru, fel rhan o'r broses o oresgyn unrhyw fregusrwydd.  Mae'n enw sy'n adlewyrchu'r cyfrifoldeb sydd arnom, ac sy'n cael ei gydnabod a'i ddeall gan y rheini r'yn ni'n eu gwasanaethu ac yn ceisio ennyn eu hymddiriedaeth.  Mae'n hollbwysig bod pob dinesydd sy'n byw yng Nghymru yn teimlo perchnogaeth o'n Senedd, yn deall ei phwrpas a'i bod yn cael argraff seicolegol ac ymarferol ar bob cymuned ledled y wlad hon, ac nid dim ond yma ym Mae Caerdydd. Yn sicr mae digon o waith gennym i’w wneud i wireddu hyn. Mae'r ffaith nad oes gennym nifer fawr o gwmnïau cyfryngau masnachol yn adrodd ar y Cynulliad, mae'r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni i greu ein llwyfannau ein hunain a rhannu ein cynnwys ein hunain, a gwneud ein Senedd mor ddigidol hygyrch â phosib. Ac wrth gwrs, rydym yn bwrw ymlaen â hyn drwy ddechrau gweithredu argymhellion y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol annibynnol a gafodd ei gadeirio gan Leighton Andrews. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai cenedl gryfach, mwy uchelgeisiol a hunanhyderus fydd y Gymru lle mae gan fwy o'i phobl y cyfle i gyfrannu at y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd ar eu rhan, a gwybod mwy am y penderfyniadau hynny.

Dinasyddion yr UE

Dyma hefyd pam, ar ôl Brexit, yr hoffwn weld pob dinesydd o'r UE sy'n byw yng Nghymru yn cadw ei hawl i bleidleisio ar gyfer ein Senedd genedlaethol.  Ac yn fy marn i, dylai dinasyddion o unrhyw wlad sy'n byw yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol Cymru, o ble bynnag maen nhw'n dod.  Mae hyn wrth gwrs yn fater i'r Cynulliad benderfynu arno a bydd yr Aelodau am wybod beth yw barn y cyhoedd, felly bydd hyn yn destun ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd.  Ond doed a ddêl, rwyf eisiau i Senedd Cymru ar ei newydd wedd fod yn fwy cynhwysol na'r pum Cynulliad sy'n ei rhagflaenu, yn yr un modd â fy mod am ei gweld yn estyn allan ac yn meithrin ei henw da a'i chysylltiadau ar y llwyfan rhyngwladol.  Rhaid i ni barhau i fod yn Gymru groesawgar yn hytrach na chaniatáu i Brexit ein hynysu yng nghornel orllewinol ein cyfandir.

Y cyd-destun deddfwriaethol

Bydd y penderfyniad hwn i greu Senedd gryfach yn ein dwylo ni. O'r Prif Ddiwrnod Penodedig ar y cyntaf o Ebrill 2018, mewn llai na phedwar mis, bydd Deddf Cymru 2017 yn rhoi'r cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad dros ein hetholiadau ein hunain, dros faint ein Senedd a thros ein gweithdrefnau. Fe wyddoch y gwahoddodd Comisiwn y Cynulliad banel o arbenigwyr ar ddiwygio etholiadol yn gynharach eleni, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister o'r Ganolfan hon, i adolygu'r dystiolaeth a'r ymchwil gyfredol ynghylch maint a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol, ac ychwanegu at rhain pe bai angen, ac yna i wneud argymhellion am y canlynol: Faint o Aelodau Cynulliad a ddylai fod
  1. Y system etholiadol y dylid ei defnyddio i ethol yr Aelodau
  2. Yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad
Gofynnwyd i'r panel – sy'n cynnwys rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Ewrop ynghylch materion etholiadol – lunio argymhellion y gellid eu gweithredu mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2021, a chyflwyno adroddiad erbyn yr hydref 2017. Ac rwy'n addo na fydd yn rhaid i chi aros yn rhy hir nawr am yr adroddiad hwnnw. Yn wir, erbyn yr amser hwn yr wythnos nesaf, bydd canfyddiadau'r panel yn cael eu darlledu drwy'r holl gyfryngau newyddion arferol drwy adroddiad rwy'n gwybod sy'n un trylwyr a swmpus, ac yn cynnwys tystiolaeth ragorol.  Rwy'n cael ar ddeall bod 252 o dudalennau yn Saesneg a 262 o dudalennau yn Gymraeg! Felly, mae digon o waith darllen o'ch blaen! Mi fydd yna dasg i rywun i ddarganfod beth sydd wedi cyrraedd y fersiwn Gymraeg na lwyddodd i gyrraedd y fersiwn Saesneg! Felly, nid oes yn rhaid i chi aros yn hir, ond hir fu'r aros am y gallu i gychwyn proses i wneud penderfyniadau ynghylch y materion hyn. (I nodi: Wnaeth y Panel Arbenigol cyhoeddi eu hadroddiad ar 12 Rhagfyr 2017.)

Cynyddu capasiti

Ydw i'n cael rhoi rhagolwg i chi heno o'r hyn sydd yn yr adroddiad? Nac ydw, ond fe allaf i eich atgoffa y daeth adroddiad y cytunodd y Comisiwn blaenorol arno'n unfrydol yn y pedwerydd Cynulliad i'r casgliad fod angen cryfhau ein democratiaeth drwy gynyddu nifer yr aelodau – wrth gwrs, fel y gwnaeth nifer o adroddiadau cyn hynny. Fodd bynnag, mae'n deg dweud bod yr adroddiad hwn yn wahanol oherwydd ei fod yn edrych yn fanwl ar 'sut' yn ogystal â 'pham'. Yn ei hunangofiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dywedodd y diweddar Rhodri Morgan mai'r unig reswm na chafodd argymhelliad y Comisiwn Richard i gynyddu'r Cynulliad i 80 aelod ei weithredu oedd yr ofn y gallai gwneud hynny beryglu'r gefnogaeth dros bwerau deddfu.  Wrth gwrs, prin oedd y dystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn ar y pryd, ond mae'n deg dweud na fydd galw am fwy o wleidyddion byth yn fater poblogaidd i ymgyrchu ar ei gyfer – hyd yn oed os mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond mae hefyd yn deg dweud bod datganoli wedi datblygu yn y fath fodd fel bod hwn bellach yn gwestiwn na ellir ei osgoi. Mae angen i ni gael sgwrs aeddfed sy'n seiliedig ar dystiolaeth briodol yn hytrach na rhagfarnau mympwyol, ac rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y panel yn arwain at gynnal y sgwrs hon.

Esblygiad datganoli

O'r corff â phwerau cyfyngedig i wneud is-ddeddfwriaeth a agorodd ym 1999, fe wnaethom ni symud ymlaen yn 2007 i'r system LCO, neu Hell-co fel roedd sawl un yn ei hadnabod, lle roedd yn rhaid i ni ofyn am ganiatâd San Steffan bob tro yr oeddem eisiau deddfu yng Nghymru. Ie , Brett, Wil, Aisha a Geneva - byddwch yn ddiolchgar eich bod chi ond yn cyrraedd eich arddegau erbyn i'r system LCO gael ei dileu, neu fe fyddech chi'n ysgrifennu traethawd am ei chymhlethdodau a'i chyfyngiadau nawr! Mae’n rhaid fod y  broses o sicrhau cydsyniad i’r LCO Cig Coch, yn fy rol fel y Gweinidog Materion Gwledig ers talwm, ymhlith y prosesau mwyaf poenus, trwsgwl a chostus ar gyfer unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth erioed – gan gyflawni cyn lleied! Yn 2011, fe wnaethom ni fabwysiadu pwerau deddfu sylfaenol. A’r flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n mabwysiadu model datganoli newydd o gadw pwerau, a bydd trethi newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru cyn gweithredu pwerau amrywio treth incwm yn 2019. Fel cenedlaetholwraig, mae'r newid wedi bod yn araf, yn boenus ac yn gymhleth - ond rwy'n siŵr y bydd haneswyr gwleidyddol y dyfodol sydd yn ein mysg, yn gweld y cyfnod hwn fel amser o drawsnewid cymharol gyflym.

Craffu

Ac wrth gwrs, gyda mwy o bŵer daw mwy o gyfrifoldeb i graffu ar y ffordd y caiff y pŵer hwnnw ei weithredu – o ran polisi, deddfwriaeth, cyllid a threthiant. Ac felly, mae'r Cynulliad – ein pwyllgorau a'r cyfarfod llawn – bellach yn cyfarfod am fwy o oriau yn y dydd, mwy o ddiwrnodau yn yr wythnos a mwy o wythnosau yn y flwyddyn nag erioed o'r blaen. Mae ein hamserlen yn llawn yn ystod pob awr waith ac, yn aml, y tu hwnt i hynny er bod ein Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i ni osgoi amserlennu busnes cyn 9am neu ar ôl 6pm. Nid cael mwy o staff ychwanegol yw'r ateb bellach – boed yn staff y Comisiwn neu staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Aelodau.  Dyw gwneud hyn, yn hytrach na chael rhagor o aelodau, ddim yn opsiwn cynaliadwy nag effeithiol. Serch hynny, mae'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i Aelodau'r Cynulliad wedi cynyddu, ac mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i'r Aelodau gan y Comisiwn hefyd wedi helpu ysgwyddo'r faich. Mae'r pwyllgorau wedi defnyddio eu pwerau i sefydlu is-bwyllgorau er mwyn cynyddu eu capasiti, fel y gwelwyd yn ddiweddar gyda'r Bil Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, ac mae pwyllgorau'r Cynulliad, ac eithrio Safonau Ymddygiad, Deisebau a Chraffu ar Waith y Prif Weinidog, yn cwrdd bob wythnos, gyda thri yn cwrdd ar ddydd Llun hefyd. Efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi darllen adroddiad diweddar y Comisiwn McCormick ar Ddiwygio Seneddol, sy'n gwneud argymhellion ynghylch sut i wneud Senedd yr Alban yn fwy effeithiol.  Wel, y newyddion da - neu'r newyddion drwg yn dibynnu ar eich safbwynt -yw bod y Cynulliad Cenedlaethol eisoes wedi rhoi llawer o'i argymhellion ar waith mewn perthynas â diwygio, cynyddu effeithlonrwydd a chapasiti a gwell ymgysylltiad â'r cyhoedd. O'r rheini sydd heb eu gweithredu, byddai rhai yn gwbl amhosib eu gweithredu yn y Cynulliad oherwydd bod cyn lleied o aelodau gennym, er enghraifft cynnal y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd Pwyllgor ar yr un pryd. Wrth gwrs, ni allwn laesu dwylo am ein gweithdrefnau ac arferion, ond mae'n amlwg nad oes gennym lawer iawn o le i addasu o ran ein gallu i weithio'n fwy effeithiol a chreu mwy o le ar gyfer gwaith craffu. Ac mae hyn yn cael ei gymhlethu, nid yn fwriadol mae'n rhaid dweud, gan dwf diweddar Llywodraeth Cymru o 12 i 14.

Yr ystadegau

Felly, gadewch i ni edrych ar oblygiadau hyn ar ein gwaith yn y Cynulliad. Dyma'r ffeithiau: Ar hyn o bryd, mae 64% o Aelodau'r Cynulliad, 38 i gyd, yn dal swyddi  ychwanegol, boed fel rhan o Lywodraeth Cymru, Llywydd, Comisiynwyr, rheolwyr busnes, arweinwyr plaid neu gadeiryddion pwyllgorau. Mae hyn yn cymharu â dim ond 45% o Aelodau Senedd yr Alban. Mae'n debyg nad yw'r gymhariaeth â San Steffan yn deg ond fe wnaf ei nodi beth bynnag - ond mae ffigurau o fis Chwefror 2017 yn awgrymu bod yna tua 500 o ASau nad oeddent yn dal swyddi yn y llywodraeth neu'n ddeiliad swyddi - sy'n cynrychioli 77% o aelodaeth Tŷ'r Cyffredin. Mae hyn yn cymharu â dim ond 22 Aelod -37% o Aelodau'r Cynulliad - yng Nghymru. Mae'r pwysau ar ein pwyllgorau yn aruthrol.  Mae gennym 43 o Aelodau - y rhai nad ydynt yn Llywydd, Dirprwy Lywydd neu Weinidogion - i lenwi 79 o leoedd ar bwyllgorau (ac eithrio'r Pwyllgor Busnes, y Pwyllgor Safonau a Chraffu ar y Prif Weinidog). Mae hyn yn golygu bod 24 o'n Haelodau - 41% - yn eistedd ar ddau bwyllgor, a 7 Aelod - 12% - yn eistedd ar dri. Mae ffigurau fel y rhain yn dangos yr amgylchiadau a ysgogodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, y swydd sy'n gyfrifol am archwilio gwariant cyhoeddus yng Nghymru, ychydig flynyddoedd yn ôl i ddweud, ac yr wyf yn dyfynnu, 'mae angen mwy o Aelodau ar y Cynulliad i wneud ei waith yn iawn'. Rwy'n hyderus bod y mwyafrif helaeth o'n ACau yn rhoi oriau lawer o'u hamser i ymgymryd â baich enfawr o ddarllen, ymchwilio a pharatoi ar gyfer pwyllgorau - gan gynnwys ysgrifennu areithiau a drafftio cwestiynau.  Ond gyda'r ewyllys gorau yn y byd, os yw'ch wythnos waith gyfan yn cael ei llenwi â phwyllgorau, cyfarfodydd llawn a chymorthfeydd, heb sôn am ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol, ymrwymiadau a chyfweliadau, yna allwn ni wir ddisgwyl i bob AC roi'r un sylw i bob ymchwiliad ar eu hamryw bwyllgorau? Maent angen amser arnynt i feddwl hefyd - i ddadansoddi'r dystiolaeth, dyfeisio syniadau newydd, a dod o hyd i atebion i broblemau.  Amser meddwl yw'r amser mwyaf gwerthfawr - rwy'n gwneud fy meddwl i yn ystod y 4 awr rwy'n eu treulio ar goridor yr M4 bob wythnos. Ac mae'r pwysau mwyaf ar y Blaid Lafur, y mae'n rhaid iddi lenwi ei lleoedd ar Gomisiwn y Cynulliad, chwe chadeiryddaeth pwyllgor a 31 o leoedd ar bwyllgorau gan 15 yn unig o Aelodau'r meinciau cefn. Mae hefyd yn wir bod 7 o'n cadeiryddion pwyllgor yn eistedd ar un pwyllgor arall, ac mae 4 cadeirydd yn eistedd ar 2 arall. Mae'r sefyllfa'n anghynaladwy. Mae geiriau cyn Glerc Tŷ'r Cyffredin, yr Arglwydd Lisvane, yn dod i feddwl. Dywedodd ef, 'oni bai eich bod chi'n barod i wneud newidiadau sylweddol - megis Siambr rithwir a phwyllgorau rhithwir, fel nad oes angen i'r Aelodau fod yn bresennol, a bod adeiladau Seneddol yn dod yn amherthnasol - byddwch yn talu bob amser mewn amser yr Aelodau'. Ac mae amser yr Aelodau yn ein Cynulliad wedi cyrraedd premiwm. Mae ein haelodau meinciau cefn yn gweithio'n galed ond mae arnom angen mwy ohonynt. Nawr efallai bod ein fframwaith sefydliadol yn fregus a bod angen ei gryfhau, ond nid yw hynny'n wir am aelodau meinciau cefn ein sefydliad ni.  Mae gennym garfan arbennig o Aelodau sy'n gweithio'n galed iawn, ac mae eu profiad a gwybodaeth gyfunol wedi cael ei wella yn ddiweddar trwy gael pobl fel Jane Hutt a Mick Antoniw i'w plith.  Mae yr un mor bwysig, gyda llaw, ein bod ni'n cadw ac yn defnyddio profiad gwerthfawr cyn-Weinidogion yn y Cynulliad, ag y mae yn San Steffan - hyd yn oed os na fyddwn yn rhoi ffwr ermin iddynt! Mae angen Harriet Harmans, Ken Clarkes a John Redwoods y byd hwn ar ein senedd.  Peidiwch â'm dyfynnu allan o gyd-destun ar hynny.  Dim ond dweud yr wyf fy mod am weld cyn Weinidogion a chyn Lywyddion yn parhau fel aelodau etholedig a rhoi o'u profiad.

Cymariaethau Rhyngwladol

Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol yn ogystal â bod gennym lai o aelodau na llawer o'n hawdurdodau lleol yng Nghymru, ein cynulliad cenedlaethol yw'r lleiaf o holl seneddau datganoledig y DU.  Ymhlith gwledydd yr UE, maint cyfartalog is-siambrau seneddau yw 267 aelod.  Yn ôl astudiaeth ddiweddar, o ran y seneddau hynny sy'n gwasanaethu poblogaethau o rhwng 1 a 6 miliwn o bobl, eu maint cyfartalog yw 142 aelod. Felly, mae gennym sefydliad bychan iawn ac mae gan bobl Cymru, fesul pen o'r boblogaeth, lawer llai o gynrychiolwyr yn eu senedd genedlaethol na chyfartaledd yr UE. Os ydym yn edrych ar ranbarthau a gwledydd datganoledig eraill yn yr UE, hyd yn oed pan fyddwn yn cynnwys y rhanbarthau llai, y rhai â llai o bwerau a'r rhai nad oes ganddynt swyddogaethau gweithredol, nifer cyfartalog yr aelodau yw 76.

Y camau nesaf

Felly pam y dylai pobl Cymru gael eu tangynrychioli yn eu Senedd Genedlaethol a pham y dylai'r senedd honno ddioddef o ddiffyg capasiti wrth gyflawni ei chyfrifoldebau? Yr unig resymau go iawn yw oherwydd nad ydym wedi cael y pwerau i wneud rhywbeth hyd yma, ac mae eraill, fel y cyfaddefodd Rhodri Morgan, wedi bod yn rhy gyndyn i gynnal y ddadl.  Wel, dydw i ddim yn un y gwyddys ei bod yn osgoi problemau anodd, na chwaith yn osgoi cynnal neu arwain y ddadl hon, os dyna beth mae'r adroddiad yn ei argymell ac os dyna beth mae Aelodau'r Cynulliad yn gofyn i mi ei wneud.  Wrth wneud hynny, byddaf yn cychwyn sgwrs ac ymgynghoriad arloesol, trylwyr ac ystyrlon gyda phobl Cymru; rhaid i bleidiau gwleidyddol hefyd gael yr amser a'r gofod i ystyried eu safbwyntiau.  Pan fydd y panel yn cyhoeddi ei adroddiad, rwy'n gobeithio y gallwn gydweithio ar draws y sbectrwm gwleidyddol, er mwyn datblygu consensws gwleidyddol a dod o hyd i'r ffordd gywir ymlaen. Ni ellir parhau i anwybyddu'r mater a'i chicio i'r glaswellt hir nes bod Comisiwn arall y Cynulliad yn penderfynu ceisio mynd i'r afael â hi unwaith eto. Nid wyf yn credu y bydd cyfle arall fel hwn - lle mae cymaint o ffactorau wedi'u halinio - i sicrhau bod hyn yn digwydd ar ran cenhedlaeth Brett, Wil, Geneva ac Aisha.

Goblygiadau Ariannol

Fel y daeth Comisiwn Silk i'r casgliad, 'mae craffu da yn golygu deddfwriaeth dda, ac mae deddfwriaeth dda yn talu drosti'i hun'.  Serch hynny, yr wyf yn siŵr y bydd cost mwy o ACau yn codi pe bai'r panel yn argymell cynnydd yn yr aelodau. Rwyf hefyd yn siŵr y bydd y panel am wneud sylwadau ar hyn yn eu hadroddiad - er y bydd pawb, yn cynnwys minnau, yn gwbl benderfynol o sicrhau bod y costau'n cael eu cadw i isafswm. Fe fydd yn rhaid inni aros tan yr wythnos nesaf i weld y manylion ond mae'n werth nodi bod un adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol a DU: Undeb sy'n Newid yn nodi mai cost amcangyfrifedig 40 Aelod ychwanegol fyddai oddeutu £9 miliwn o bunnoedd. 1  Amcangyfrifodd ffigurau a gynhyrchwyd gan y Trysorlys yn yr un flwyddyn mai cost ein 4 Aelod sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop yw £7.16 miliwn. Felly £7.16 miliwn ar gyfer 4 ASE, £ 4.5 miliwn, yn ôl adroddiad Mae Maint yn Cyfrif, ar gyfer 20 Aelod Cynulliad. Mae hefyd yn werth cofio bod cynigion Newid Ffiniau San Steffan hefyd yn dal ar y gweill.  Felly ydy, mae'n werth ystyried cost democratiaeth yn gyffredinol yng Nghymru wrth ddod i'r penderfyniad hwn, yn ogystal â'r ffaith y gallai hyd yn oed gwelliannau bach yn y craffu arwain at elw sylweddol i'r trethdalwr.

Brexit

O ran goblygiadau Brexit ar gyfer ein Cynulliad Cenedlaethol, mae ystyriaethau pellach, pwysicaf wrth gwrs na'r arbedion a wneir ar gost ASEau.  Nid oes amheuaeth y bydd y broses o adael yr UE yn achosi newidiadau i rôl y Cynulliad a'i faich gwaith. Yn wir, bydd yn arwain at newidiadau sylfaenol i drefniadau cyfansoddiadol y DU a lle'r gwledydd oddi mewn iddi. Ar hyn o bryd, ymddengys bod Bil yr UE (Ymadael), ar ei ffurf bresennol, yn ymwneud llawn cymaint â Whitehall yn cymryd rheolaeth yn ôl gan bobl Cymru ag y mae'n ymwneud â chymryd rheolaeth yn ôl gan Frwsel.  Ond mae'n amlwg iawn imi, wrth bleidleisio dros Brexit, ni wnaeth pobl Cymru bleidleisio i wrthdroi cynnydd datganoli, trwy rewi a chyfyngu ein pwerau. O'r herwydd, mae Pwyllgor Materion Allanol trawsbleidiol y Cynulliad wedi cyhoeddi argymhellion manwl ac adeiladol a gwelliannau i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Os na fydd Gweinidogion y DU yn ystyried y rhain, fel y mae pethau ar hyn o bryd  efallai na fydd y Bil yn derbyn cydsyniad y Cynulliad. Wrth gwrs, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE yn gynharach eleni mai un o ganlyniadau Brexit fyddai "cynnydd arwyddocaol yn swm y pwerau a roddir i'r sefydliadau datganoledig". Un ffordd neu'r llall, yr ydym yn llawn ddisgwyl y bydd y Cynulliad yn ysgwyddo mwy o waith o ran llunio polisi, craffu ar ddeddfwriaeth a dylanwadu ar y ddadl hon. Os awn yn ôl i ble mae hyn yn gadael y genhedlaeth nesaf y cyfeiriasom ato'n gynharach - ni wnaethon nhw, wrth gwrs, ofyn am ddim o hyn.  Pleidleision nhw dros i'r DU aros yn yr UE.  Felly unwaith eto, er ein bod wedi methu â chyflawni'r canlyniad hwnnw, mae'n rhaid i ni, er eu mwyn nhw, sicrhau ein bod yn gallu defnyddio'r cyfle hwn i lunio'r perthnasoedd rhwng senedd a llywodraethau'r ynysoedd hyn yn y dyfodol. Mae hwn yn amser ar gyfer perthnasoedd aeddfed ac uniongyrchol rhwng pwyllgorau seneddol, rhwng deddfwrfeydd, rhwng Ysgrifenyddion Cabinet a'u Gweinidogion cyfatebol mewn mannau eraill a rhwng adrannau'r llywodraeth.  Dyma'r amser i greu rhagor o gydraddoldeb rhwng y gwledydd, ac mae'n amser sy'n gofyn am hunanhyder yn ogystal â pharch at ein gilydd.

Tuag at Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Er gwaethaf yr heriau sydd o'n blaenau, mae'n bleser mawr gennyf wybod bod carfan gynyddol o bobl ifanc, y mae rhai ohonynt yma heno, yn gweld dyfodol iddyn nhw'u hunain yn llunio ac yn arwain datblygiad Cymru trwy wleidyddiaeth neu y tu allan i wleidyddiaeth, gan ddatblygu ein gallu a'n grym sefydliadol.  Efallai y bydd rhai am fod yn newyddiadurwyr gwleidyddol, yn lobïwyr, yn SpAds, yn staff cymorth, yn academyddion neu'n weision sifil. Yn 2021, efallai y bydd rhai am ddod yn aelodau etholedig yn 6ed tymor y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn wir, yn Senedd newydd Cymru. Gallai fod yn sefydliad gwahanol iawn - yn fwy gwydn byth, yn gryfach byth, ac yn sicr, yn llai bregus.  Gallai fod yn fwy o faint ac yn fwy amrywiol ac mae'n bosibl iawn y bydd wedi'i ethol gan  ddinasyddion 16 a 17 oed.  Yn bendant bydd yn cael ei ategu gan Senedd Ieuenctid newydd i Gymru, y bydd ei Haelodau'n cael eu hethol am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd y ddwy senedd ar flaen y gad o ran arloesi democratiaeth ddigidol, ar ôl chwyldroi cyfathrebu ac ymgysylltu â'u hetholwyr mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd ein Senedd newydd yn enghraifft o arfer da o ran ei safonau craffu, a disgwyliaf i'w Haelodau fabwysiadu'r safonau ymddygiad uchaf. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd ein Senedd newydd, er y tu allan i'r UE, yn cynnal ei phartneriaethau presennol ar y llwyfan rhyngwladol ac yn creu cysylltiadau strategol newydd ledled y byd. Mae gennym gyfle i greu Senedd sy'n gweithio go iawn i Gymru.  Gadewch i ni groesawu'r ddadl honno, gyda'r holl heriau a ddaw gyda hi, a defnyddio cyfnod cynnar 2018 i feddwl am yr etifeddiaeth yr ydym am ei gadael i'r genhedlaeth nesaf.