Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Amrywiaeth Oedran yn y Gweithle: Gweithio amlgenhedlaeth

Cyhoeddwyd 07/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2017

Erbyn hyn mae cyflogwyr yn gweld pum cenhedlaeth wahanol o weithwyr yn gweithio ochr yn ochr yn eu gweithleoedd. Mae'r pum cenhedlaeth wahanol yn cael eu diffinio fel a ganlyn:
  • Traddodiadol: 70 oed - 80+;
  • y Babyboomers: 50 oed – 60au hwyr;
  • Cenhedlaeth X: 30au hwyr - 40au hwyr;
  • Cenhedlaeth Y / y Millennials: 20 oed - 30au cynnar;
  • a Chenhedlaeth Z / Brodorion Digidol: a enir ar hyn o bryd - arddegau hwyr. (Ffynhonnell: Virgin.com)
Mae oedi cyn ymddeol a hirhoedledd cynyddol yn golygu bod gennym weithluoedd sy'n heneiddio ac sydd felly’n dod yn fwyfwy amlgenhedlaeth. Er bod hyn ynddo’i hun yn cyfoethogi gweithleoedd, bydd angen i gyflogwyr ystyried gwahanol anghenion, safbwyntiau, setiau sgiliau a dulliau cyfathrebu eu staff ar draws y cenedlaethau i sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol a chynhyrchiol. Bydd cydweithio a sicrhau bod gweithwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth oedran hefyd yn allweddol i feithrin cynhwysiant yn y gweithle. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cydnabod yr heriau hyn. I'r perwyl hwn, nod cyffredinol ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant yw parhau i feithrin gweithle cynhwysol a chydweithredol sy’n ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys oedran. Rydym hefyd wedi datblygu modiwl hyfforddi, cyflwyniad i ragfarn anymwybodol, ar gyfer ein staff. Mae ein rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle yn amlgenhedlaeth ac yn gweithio ar y cyd. Rydym hefyd yn cynnal arolygon staff blynyddol sy'n rhoi cyfle i staff fynegi eu barn am y gweithle. Fel cyflogwr, rydym yn cydnabod yr amrywiaeth gyfoethog sy'n bodoli o fewn amgylchedd gwaith amlgenhedlaeth ynghyd â’r ehangder o greadigrwydd, setiau sgiliau a safbwyntiau yr ydym yn elwa ohonynt. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gydnabod hyn wrth inni symud ymlaen i gyflawni ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant dros y blynyddoedd nesaf.