Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Neges gan y Prif Weithredwr

Cyhoeddwyd 03/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2017

Manon Anotniazzi, Prif Weithredwr a ChlercMae'r uwch dîm a minnau yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn enghreifftiol o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant, cydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynllun gweithredu cysylltiedig a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n gwerthoedd o ran amrywiaeth a chynhwysiant: Gweledigaeth Rydym eisiau parhau i fod yn sefydliad enghreifftiol o ran gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant ac ymgorffori cydraddoldeb, fel cyflogwr a sefydliad seneddol. Mae ein sefydliad yn hygyrch ac yn parchu ac ymgysylltu â phobl Cymru a thu hwnt. Gwerthoedd Gan ddefnyddio ein gwerthoedd corfforaethol sy'n diffinio'r ffordd yr ydym yn gweithio, rydym wedi nodi ein gwerthoedd Amrywiaeth a Chynhwysiant ac rydym yn gwneud y canlynol:
  • sicrhau bod amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb yn rhan annatod o'n sefydliad ac yn sail i'r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, recriwtio a rheoli staff, cefnogi Aelodau’r Cynulliad ac ymgysylltu â phobl Cymru;
  • herio a cheisio dileu achosion o aflonyddu a gwahaniaethu;
  • cydnabod a chwalu rhwystrau rhag cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad;
  • ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol a sefydliad seneddol hygyrch;
  • anelu at sicrhau bod ein gweithlu yn gynrychiadol o’n cymdeithas amrywiol, gan gynnwys ar lefel uwch;
  • annog ac ehangu cyfranogiad yng ngweithgareddau'r Cynulliad ac ymgysylltiad â'r Cynulliad gan bobl ledled Cymru; a
  • hybu agweddau positif tuag at amrywiaeth a chynhwysiant, a meithrin perthnasoedd da rhwng gwahanol grwpiau o bobl.
Mae'r Strategaeth yn nodi sut mae ein staff yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gwasanaethau cynhwysol, hygyrch ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl. [1]Bydd y strategaeth hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a hefyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gwmpasu pob un o'r nodweddion gwarchodedig a materion eraill fel cyfrifoldebau gofalu, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldebau eraill. Fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau, mae ein sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb dan anfantais nac yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn ar y sail hon: bydd ymddygiad gwahaniaethol yn cael ei drin drwy ein gweithdrefnau disgyblu. Hefyd, fel cyflogwr, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg tra'n darparu ar gyfer ein hanghenion busnes. Yn unol â nodau strategol Comisiwn y Cynulliad, mae'n bwysig i ni bod y Cynulliad yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt: gan ei gwneud yn berthnasol, hawdd ac ystyrlon i bobl ryngweithio ag ef a chyfrannu at ei waith. Mae hefyd yn bwysig i ni ein bod yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent, a galluogi pawb a gyflogwn i wireddu eu llawn botensial. Byddaf yn sicrhau bod ein staff yn deall y rhan y maent yn ei chwarae wrth helpu ein sefydliad i gyflawni ein hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant a gwireddu ein gweledigaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Ein nod yw cyflawni'r canlyniadau cydraddoldeb gorau posibl ar gyfer ein gweithlu a phawb sy'n rhyngweithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn gwneud popeth y gallwch i weithio mewn ffordd sy'n parhau i gyflawni gwelliannau amrywiaeth a chynhwysiant go iawn a mesuradwy y gallwn fod yn falch ohonynt. Manon Antoniazzi Prif Weithredwr a Chlerc [1] Nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a thueddfryd rhywiol.