Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2015

Cyhoeddwyd 08/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/06/2015

Yr wythnos hon, byddwn yn rhannu cyfres o erthyglau blog fel rhan o'n Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, digwyddiad yr ydym yn ei gynnal bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Yn yr erthygl gyntaf, fe rown flas o sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad. Rŷm ni'n ymdrechu i fod yn gyflogwr cynhwysol sy'n cefnogi anghenion pawb sy'n gweithio yma. Mae gennym nifer o dimau, polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i'n staff, i sicrhau y gallan nhw fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial. Un ffordd dda o ddweud mwy wrthych chi am beth rŷm ni'n ei wneud yw i adael i rai o'n staff ddweud wrthych eu hunain. Cael cefnogaeth, bod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial. "Mi gymrodd dair blynedd i fi ddod 'allan' yn fy swydd flaenorol; mi gymrodd lai na thair wythnos i mi deimlo'n ddigon cyfforddus i wneud yr un peth yma. Roedd yn amlwg ar unwaith fod pawb yn derbyn pawb arall am bwy ydyn nhw. Roedd yn bosib i mi ddod yma fel y dyn newydd, nid y dyn hoyw newydd." "Dydw i ddim yn teimlo'n anabl pan fyddaf yn dod i'r gwaith, gan fy mod yn cael fy nhrin gyda pharch ac mae fy sgiliau yn cael eu gwerthfawrogi." Ein Polisi Cam-drin Domestig "Doeddwn i ddim yn deall pam fod cam-drin domestig yn fater ar gyfer y gweithle. Roedd clywed gan rywun oedd wedi goroesi cam-drin domestig yn bwysig gan ei fod yn gwneud y polisi'n berthnasol." Ein trefniadau gweithio hyblyg "Ers i mi ddod yn rhiant, mae fy mhatrwm gwaith wedi ei addasu er mwyn i mi gael y cydbwysedd iawn rhwng fy ngwaith a fy mywyd personol, gan gynnwys wythnos waith o 32 awr dros bedwar diwrnod, dim gweithio'n hwyr yn y nos, a gweithio yn ystod y tymor yn unig. Mae'r patrwm gwaith hwn yn golygu fy mod ar gael bob nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae pob un o'r addasiadau hyn wedi bod yn hynod o werthfawr." "Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael gweithio'n hyblyg. Rwy'n byw cryn bellter o Gaerdydd ac wedi cywasgu fy oriau er mwyn fy ngalluogi i weithio yng Nghaerdydd am bedwar diwrnod hir bob wythnos. Hefyd, oherwydd y pellter, gallaf weithio o gartref o bryd i'w gilydd." "Rwy'n rhiant sengl sydd â chyfrifoldebau gofal ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod yn gallu gweithio llai o oriau. Mae hyn yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd iach rhwng fy mywyd personol a'r gwaith." Addasiadau rhesymol a wnaed "Fel aelod staff byddar, rwy'n cael cefnogaeth dda yn fy rôl. Mae cydweithwyr yn y swyddfa wedi addasu eu harferion gwaith ac rwyf wedi cael yr offer angenrheidiol i fy ngalluogi i wneud y mwyaf o fy sgiliau. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud cyfraniad llawn i'r tîm." "Mae cefnogaeth barhaus y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi ei gwneud yn haws i mi ddod i'r gwaith". "Rwyf yn awr yn defnyddio cadair ergonomaidd, sy'n cael effaith anhygoel ar fy nghefn a'n asgwrn cefn...mae fy nghefn yn teimlo'n 'gryfach' ers defnyddio'r gadair." Ein hymgysylltiad â'r rhwydweithiau Staff "Mae parodrwydd y Cynulliad wrth ymgysylltu ag Embrace, ein rhwydwaith staff anabl, wedi gwneud mi i deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a fy mhrofiadau fel aelod staff anabl.  Rwy'n falch o fod yn aelod o'r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i'r sefydliad a'i staff." Astudiaeth Achos - lleoliadau profiad gwaith Stonewall "Cefais wythnos wych yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae awyrgylch ac ethos y sefydliad yn glod i bob aelod o'r staff. Nid wyf yn credu y gallai Stonewall Cymru fod wedi dod o hyd i enghraifft well o weithle lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain, dathlu gwahaniaeth, a chyflawni canlyniadau gwych: dyma'r argraff a gewch o'r funud y cerddwch i mewn i Dŷ Hywel, pan welwch dystysgrif Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru ar y wal." Christian Webb, a ddaeth i'r Cynulliad fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith Stonewall Cymru. Mae'r cynllun yn ceisio rhoi'r profiad i bobl gael gweithio mewn gweithleoedd sy'n gyfeillgar i'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Darllenwch ei flog llawn yma . Rŷm ni'n falch o fod wedi derbyn y meincnodau a'r achrediadau canlynol sy'n dathlu ein gweithle cynhwysol:
  • Pedwerydd ar restr Stonewall o Gyflogwyr Gorau'r DU ar gyfer pobl LGBT, a'r Cyflogwr Sector Cyhoeddus Gorau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ogystal, mae ein grŵp rhwydwaith wedi cael canmoliaeth uchel;
  • Ar restr y 30 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio yn ystod 2014;
  • Ar restr y 50 o Gyflogwyr Gorau gan The Times ar gyfer Menywod yn ystod 2014;
  • Wedi cadw'n hymrwymiad i ymgyrchoedd Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl a Hyrwyddwr Oedran;
  • Wedi cadw ein Marc Siartr 'Yn Uwch na Geiriau' elusen Action on Hearing Loss.
  • Wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol; ac
  • Wedi cadw ein Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl.
equality week