Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Ailbennu rhywedd – beth rydych chi’n ei wybod amdano?

Cyhoeddwyd 22/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2012

A wyddech chi? April Ashley oedd yr unigolyn cyntaf i gael llawdriniaeth ailbennu rhywedd yn y DU, yn 1960. Beth yw ailbennu rhywedd? A ydych chi wedi cwrdd ag unigolyn trawsryweddol erioed? Sut y byddech yn gwybod? Mae nifer o bobl drawsryweddol yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi’u gwthio i gyrion cymdeithas oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Hefyd, mae portreadau yn y cyfryngau o bobl drawsryweddol wedi effeithio’n negyddol ar y boblogaeth drawsryweddol. Cynyddodd nifer y troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol 14% ledled y DU yn 2010. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’r ‘man cychwyn’ wrth ddedfrydu pobl a gafwyd yn euog o lofruddio unigolyn trawsryweddol yn dyblu, o 15 mlynedd i 30 mlynedd, gan olygu ei bod yn cyd-fynd â dedfrydau yn achos llofruddiaethau ar sail hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Gallwch weld fideo yma gan Jenny-Anne Bishop, dynes drawsryweddol o Gymru. [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=zH_66ADXxfI&feature=relmfu] Dathlodd y Cynulliad y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia (IDAHO) ym mis Mai eleni. Bu 17 Aelod Cynulliad, gan gynnwys y Llywydd a’r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, yn recordio negeseuon i fynegi eu cefnogaeth i bobl ifanc ledled Cymru sydd efallai wedi cael eu bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Mae’r ffaith iddynt gymryd rhan yn yr ymgyrch yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i ddatblygu cymdeithas deg a chyfartal, lle y gall pobl amrywiol fod yn nhw eu hunain heb ofni y cânt eu cosbi o ganlyniad. Gellir cael rhagor o wybodaeth o A:gender, sef y rhwydwaith ar gyfer pobl drawsrywiol, trawsryweddol, neu ryngrywiol yn y gwasanaeth sifil; hefyd, gall Canolfan Ragoriaeth LGBT roi arweiniad a manylion cyswllt grwpiau sy’n rhoi cymorth i bobl drawsryweddol.