Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Mae'r Magna Carta yn 800 oed!

Cyhoeddwyd 12/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2015

Ddydd Llun 15 Mehefin, byddwn yn dathlu 800 mlynedd ers llofnodi'r Magna Carta, dogfen sy'n sail rannol, ym marn llawer o bobl, i'r hawliau, y gynrychiolaeth, y rhyddid a'r ddemocratiaeth yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol heddiw. Gellir dadlau bod y Magna Carta yn ddogfen bwysig, gynnar ar hawliau dynol, a oedd yn greiddiol i'r broses o ddatblygu hawliau fel yr ydym ni'n eu deall nhw heddiw, fel yr hawl i gyfiawnder a gwrandawiad teg. Er mwyn edrych ymhellach ar beth yw ystyr hawliau dynol yng nghyd-destun bywyd bob dydd, sut y maent yn effeithio ar bobl a pham eu bod mor bwysig, beth am fynd am dro ar hyd Stryd Urddas, sef canllaw rhyngweithiol syml ar y Ddeddf Hawliau Dynol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol? Mae rhagor o wybodaeth am ddathlu 800 mlynedd ers llofnodi'r Magna Carta ar gael ar y wefan swyddogol.