Wythnos Iechyd Meddwl Plant

Cyhoeddwyd 15/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2019

Blog gwadd gan Lynne Neagle AC. Wnaeth yr erthygl yma dangos cyntaf yn y Western Mail View this post in English Ym mis Ebrill bydd yn flwyddyn ers i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ei adroddiad ar Gadernid Meddwl, a oedd yn galw am newid sylweddol o ran y cymorth a gynigir i blant sydd â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd y canfyddiadau yn syndod mawr. Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 mlwydd oed. Mae tri chwarter yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn canol ugeiniau person ifanc. Bydd un o bob deg o'n pobl ifanc yn cael problem iechyd meddwl. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, a'r doreth o dystiolaeth arbenigol a gawsom, daethom i'r casgliad, pe na byddem wedi rhoi pobl ifanc wrth wraidd ein strategaeth, byddai problemau iechyd meddwl yn parhau i waethygu. Er mwyn atal y cynnydd, daethom i'r casgliad bod angen newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn ymdrin ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yng Nghymru. Mae angen sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc y sgiliau, yr hyder a'r dulliau i fod yn emosiynol wydn. Mae angen strategaeth arnom sy'n golygu ein bod yn ymyrryd yn llawer cynharach, gan ymateb i'r hadau sy'n peri gofid cyn iddynt ymwreiddio. Roeddem yn siomedig iawn gydag ymateb cyntaf Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Fel Pwyllgor, gwnaethom gymryd cam hollol newydd drwy wrthod yr ymateb, a galw ar y Gweinidogion i ailystyried eu safbwynt. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol - a gadeiriwyd ar y cyd gan y Gweinidogion Iechyd ac Addysg - i ailystyried y dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion y gwnaethom roi ystyriaeth drwyadl a manwl iddynt. Rwy'n eistedd ar y Grŵp hwnnw fel sylwedydd annibynnol gyda hawliau llawn i gymryd rhan. Rwy'n bwriadu rhoi adborth ar waith y Grŵp hyd yn hyn, a mynd ar drywydd cynnydd sy'n bodloni dyheadau a disgwyliadau'r Pwyllgor yn y maes hwn. Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £7.1 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael yn benodol â'r materion a godwyd yn ein hadroddiad ar Gadernid Meddwl. Wrth gwrs, mae'r arian ychwanegol i'w groesawu'n fawr ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y caiff ei fuddsoddi'n union. Wrth inni agosáu at flwyddyn ers cyhoeddi'r adroddiad, credaf fod yr amser wedi dod i gyflymu rhywfaint ar y gwaith o sefydlu'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i gefnogi pob un ohonom i weithredu a chyflawni'r newid hwn. Credaf hefyd bod angen i ni fod yn wyliadwrus rhag ofn inni ddilyn yr un llwybrau a'r gorffennol. Yr hyn sy'n glir yw nad yw'r dull presennol yn ddigon effeithiol. Felly nid ailgynllunio nac atgyfnerthu'r gwasanaethau sydd eisoes ar waith yw'r ateb. Mae angen dull newydd arnom. Ni fydd yn syndod, felly, yn ystod wythnos Iechyd Meddwl Plant, ein bod am bwysleisio nad yw'r Pwyllgor yn bwriadu terfynu ar y gwaith eto. Os rydym am roi pobl ifanc wrth wraidd ein strategaeth gyffredinol ar gyfer iechyd meddwl, mae angen i ni barhau â'n hymgyrch i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu, bod newid ac arloesi yn cael eu cyflawni, a bod ein ffocws yn cael ei symud o fod yn ymatebol, i fod yn ataliol. Ar y sail honno, rydym wedi gofyn am ymateb newydd i bob un o'n hargymhellion gan Lywodraeth Cymru erbyn mis nesaf. Nid ydym yn bwriadu cymryd ein troed oddi ar y sbardun ac rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd y pwyslais a roddir ar ein plant a'n pobl ifanc mewn perthynas â strategaethau, dulliau a buddsoddiadau sy'n ymwneud â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yn y dyfodol, gan gadw golwg agos a chraff. Yn ystod ein hymchwiliad y llynedd, buom yn siarad â llawer o blant a phobl ifanc am eu profiadau. Roedd rhai ohonynt yn hynod annifyr. Dangosodd rai ohonynt wrthym hefyd, pan fydd y gwasanaethau priodol yn effeithiol ac wedi'u sefydlu, gallant fod o gymorth mawr i bobl sy'n cael trafferth â'u hiechyd emosiynol neu iechyd meddwl. Thomas oedd un o'r bobl ifanc y gwnaethom siarad â hwy. Fel y mae pobl ifanc yn aml yn llwyddo i'w wneud, disgrifiodd ein hymchwiliad mewn un frawddeg.
"Os byddwn i wedi cael sylw i'r materion hyn lawer yn gynharach, ni fyddent wedi bod mor ddifrifol yn y pen draw."
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb - a'r gallu - i weithredu'r newidiadau a fydd yn galluogi pobl ifanc fel Thomas i gael y cymorth y mae arnynt ei angen yn gynharach er mwyn rhwystro problemau rhag mynd yn ddifrifol lle bynnag y bo modd. Ac nid yn unig i'n plant a'n pobl ifanc y mae'r newidiadau hynny, byddant yn parhau i effeithio arnynt fel oedolion yn y dyfodol, a'r plant y byddant yn eu magu. Mae'n ddyletswydd arnom i fuddsoddi i achub, i atal yn hytrach nag ymateb, ac i weithredu'r newid sylweddol y mae angen brys amdano er mwyn adeiladu poblogaeth o bobl emosiynol wydn ac iach yn feddyliol yng Nghymru. Os ydym am gael gwasanaethau cynaliadwy, poblogaeth iach, ac - yn bwysicaf oll - llai o unigolion a theuluoedd sy'n profi heriau a chaledi hirdymor oherwydd salwch meddwl, mae'n rhaid i bobl ifanc fod wrth wraidd y strategaeth. Gadewch i ni gofio geiriau Thomas - pe byddem wedi rhoi sylw i'r materion hyn lawer yn gynharach, ni fyddent wedi bod mor ddifrifol yn y pen draw.