Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Blog y Cadeirydd, 21 Mai 2015

Cyhoeddwyd 21/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/05/2015

Christine Chapman, Committee Chair Rydym bellach wedi gorffen cymryd tystiolaeth lafar gan dystion. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i'n cynorthwyo wrth ystyried y Bil hyd yn hyn - mae wedi bod yn broses ddiddorol iawn. Yn ein cyfarfod yr wythnos hon clywsom gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai. Rydym hefyd wedi holi'r Gweinidog am y Bil am yr ail dro - hwn fydd y tro olaf. Roedd hwn yn gyfle i ni holi'r Gweinidog am y prif bwyntiau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Yn olaf, buom yn trafod yr holl dystiolaeth a glywsom yn ystod ein hymchwiliad a chytunwyd ar y materion sydd i'w cynnwys yn ein hadroddiad Cyfnod 1. Byddwn yn awr yn paratoi ein hadroddiad, ac yn ei gyhoeddi erbyn 26 Mehefin. Os na weloch chi’r cyfarfod neu os hoffech ei wylio eto, mae ar gael ar Senedd.tv: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, 20 Mai 2015 Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor