Y Cwricwlwm yng Nghymru – dros 1,000 o bobl ifanc yn cael dweud eu dweud!
Cyhoeddwyd 22/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/12/2014
Dros yr haf, siaradodd y Cynulliad â dros 1,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru er mwyn clywed eu barn am y cwricwlwm, cymwysterau ac asesiadau.
Drwy arolwg a gafodd ei hyrwyddo mewn digwyddiadau a gynhaliwyd dros yr haf, fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru, cafodd pobl ifanc gyfle i ddweud wrthym ba sgiliau a phynciau y dylid (neu na ddylid!) eu dysgu mewn ysgolion, sut y gellid gwella cyngor ar yrfaoedd, a beth oedd eu barn am Fagloriaeth Cymru.
Cafwyd ymateb anhygoel, gyda 1,177 o bobl ifanc o bob rhanbarth yng Nghymru yn dweud eu dweud! Dengys y canlyniadau y dylid addysgu llythrennedd ariannol, gwleidyddiaeth ac ieithoedd busnes modern (fel Tsieineaidd) fwyfwy mewn ysgolion. Dim ond 29% o'r ymatebwyr oedd yn teimlo bod yr hyn yr oeddent yn cael ei addysgu yn yr ysgol ar hyn o bryd yn eu paratoi'n ddigonol ar gyfer bywyd a'r broses o ddod o hyd i swydd.
Wedi i ganlyniadau'r arolwg gael eu cyhoeddi, fe'u rhannwyd gydag Aelodau a Phwyllgorau'r Cynulliad. Rhannodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y canfyddiadau hyn gyda'r Athro Graham Donaldson, sy'n arwain adolygiad Llywodraeth Cymru o'r cwricwlwm a'r broses asesu yng Nghymru. Diolchodd yr Athro Donaldson i'r Pwyllgor yn ysgrifenedig am ddod â'r ystadegau i'w sylw.
Cafodd y canlyniadau eu hystyried hefyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes, fel rhan o'i ymchwiliad i helpu pobl ifanc i gael gwaith. Mae rhannau o'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar y cyngor ar yrfaoedd y mae pobl ifanc yn ei gael mewn ysgolion, ac mae'r canlyniadau'n tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd nifer o bobl ifanc wrth roi tystiolaeth fideo – sef, bod angen gwella'r cyngor ar yrfaoedd a ddarperir mewn ysgolion er mwyn helpu pobl ifanc i benderfynu sut i ddod o hyd i waith a chael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.
Yn olaf, siaradodd Bethan Jenkins AC mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar am ei hawydd i wella sgiliau llythrennedd ariannol yng Nghymru. Hoffai wneud hynny drwy ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried ei Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru). Diben y ddeddfwriaeth honno byddai hyrwyddo llythrennedd ariannol ymhlith pobl Cymru drwy ei wneud yn rhan o gwricwlwm ysgolion. Cafodd gyfle i ddefnyddio'r canlyniadau hyn i ddadlau yn llwyddiannus ar gyfer ystyried y Bil.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg, ac am gymryd y cyfle i ddweud eu dweud!