Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar

Cyhoeddwyd 10/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2015

Beth yw dementia? Mae'r gair dementia yn disgrifio set o symptomau a all gynnwys colli cof ac anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith. Nid yw'n glefyd ynddo'i hun ac nid yw'n rhan naturiol o heneiddio. Mae dementia yn digwydd pan fydd yr ymennydd yn cael ei niweidio gan glefydau, fel clefyd Alzheimer neu gyfres o strociau. Mae dementia yn glefyd lle bydd y symptomau yn gwaethygu'n raddol. Cewch wybod mwy am ddementia drwy ymweld â gwefan Cymdeithas Alzheimer neu drwy wylio ei fideo byr 'Beth yw Dementia?'. Mae dementia yn effeithio ar dros 750,000 o bobl yn y DU ac mae 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru. Beth yw goblygiadau'r Cynulliad yn dod yn sefydliad dementia-gyfeillgar? Mae'r Cynulliad yn sefydliad dementia-gyfeillgar sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith Aelodau'r Cynulliad a chymuned ehangach y Cynulliad. Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: "Drwy sicrhau bod mynediad cyfartal i bobl sy'n byw gyda dementia, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod croeso i bobl â dementia gymryd rhan mewn bywyd dinesig a bod ganddynt y gallu i wneud hynny". Bydd y Cynulliad yn:
  • Hyrwyddo hawliau'r 45,000 o bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt;
  • Sicrhau bod sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer yn cael eu darparu i staff sy'n cyfathrebu â'r cyhoedd fel bod ganddynt y sgiliau priodol i ymateb i ymwelwyr allanol sy'n byw gyda dementia;
  • Sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yng nghyd-destun pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer's; a
  • Darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau'r Cynulliad, eu staff, staff Comisiwn y Cynulliad, a chontractwyr sy'n gweithio ar yr ystâd, er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu etholwyr a phobl y maent yn cyfathrebu â hwy sy'n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner Aelodau'r Cynulliad eisoes yn Gyfeillion Dementia.
Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru: "Rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn. Mae ei addewid yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas Alzheimer's i annog cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill i weithio tuag at y nod o fod yn fwy dementia-gyfeillgar, ac yn helpu'r broses o greu amgylcheddau gwell i bobl i fyw yn dda gyda dementia cyhyd ag y bo modd. Yn awr, mae angen i bawb wneud newidiadau er mwyn grymuso pobl sydd â dementia a'u helpu i fyw'n dda yn eu cymunedau." Dwy fenyw o flaen stondin yn dal gwobrau