Y Cynulliad yn cefnogi ymgyrch ‘Mae’n gwella. Heddiw.’ Stonewall
Cyhoeddwyd 17/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/05/2012
Mae’r Cynulliad yn falch o gefnogi ymgyrch ‘Mae’n gwella. Heddiw.’ Stonewall, sy’n dweud wrth bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad oes rhaid iddyn nhw aros i’w bywydau wella - gall pethau fod yn wych nawr. Rydym ni’n lwcus ein bod ni’n byw mewn gwlad lle y caiff pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol eu hamddiffyn gan y gyfraith. Drwy ymroddiad ymgyrchwyr unigol a sefydliadau gan gynnwys Stonewall, diddymwyd adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. O ganlyniad, mae modd hyrwyddo cyfunrywioldeb mewn ysgolion ac mae gan bobl cyfunrywiol hawl i gael partneriaeth sifil, gwasanaethu’n agored yn y fyddin, mabwysiadu plant a rhoi gwybod am achosion o homoffobia a thrawsffobia gan gyfeirio atynt fel troseddau casineb. Yn ogystal, cafwyd Deddf Cydnabod Rhyw.
Rydym ni’n genedl amrywiol a goddefgar, lle mae gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol fwy o hawliau a mesurau i’w hamddiffyn nag erioed o’r blaen. Gallwn ddathlu’r cyflawniadau yn y maes hwn, a chofiwch, os ydych chi’n berson lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol, mae hawl gennych i fod yn chi eich hun ac i fod yn falch o bwy ydych chi.
Yn y Cynulliad Cenedlaethol, byddwn ni’n parhau i frwydro dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac i oresgyn homoffobia a thrawsffobia. Rydym ni i gyd yn haeddu bod yn hapus, yn rhydd o fwlio, ac i fyw mewn byd sy’n dathlu amrywiaeth.
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael profiad o homoffobia neu drawsffobia, cofiwch nad oes rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun. Mae sefydliadau sy’n gallu helpu. Mae gan Stonewall, Cymru Ddiogelach a’r Heddlu (Gogledd Cymru, De Cymru, Dyfed Powys, a Gwent) oll brosesau i’ch helpu i roi gwybod am achosion o homoffobia a thrawsffobia gan gyfeirio atynt fel troseddau casineb.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia ac i ddangos ein cefnogaeth i ymgyrch Stonewall mae Rosemary Butler AC, ein Llywydd, a Sandy Mewies AC, ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, a nifer o Aelodau’r Cynulliad ledled Cymru wedi recordio fideo yn nodi eu hymrwymiad i gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
[vimeo http://vimeo.com/42264145]