Y Cynulliad yn cynnal y digwyddiad cyntaf i Rwydweithiau Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2015

[caption id="attachment_950" align="alignnone" width="660"]Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff[/caption] Gan Selina Moyo, Cydlynydd Cynllun Gweithredu Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig. Ar 24 Mehefin, daeth cynrychiolwyr o wahanol Rwydweithiau Staff BME at ei gilydd ym Mae Caerdydd i sefydlu fforwm lle y gall Rwydweithiau Staff BME o sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru:
  • rannu syniadau, adnoddau ac arfer da;
  • dysgu am wahanol fentrau i gefnogi datblygiad staff BME, ac
  • ystyried materion sy'n berthnasol i staff a rhwydweithiau BME a mynd i'r afael â nhw.
Agorwyd y digwyddiad gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a ddymunodd longyfarchiadau i'r rhwydweithiau staff am ddod at ei gilydd a'u hannog i barhau i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau newidiadau yn eu gweithleoedd a'u cymunedau. "Ni allwn symud ymlaen fel cenedl oni bai fod pob aelod o'n cymdeithas yn cael eu cefnogi'n llawn ac yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwasanaethau cyhoeddus ... Mae cyfleoedd rhwydweithio o'r fath yn rhoi cyfle i ni weld sut orau y gallwn ymgysylltu'n well â'n gilydd a chefnogi'r cymunedau yr ydym yn gweithio iddynt." [caption id="attachment_951" align="alignnone" width="660"]Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff[/caption] Roedd llawer yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd y siaradwyr yn cynnwys: Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd; Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau'r Cynulliad a Hyrwyddwr BME; Sanjiv Vedi, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Uned Gwynion Llywodraeth Cymru; Yangi Vundamina, o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Tola Munro o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Heddlu Gwent. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar rôl Rhwydweithiau BME wrth gefnogi datblygiad staff yn y gweithle. Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol i sefydlu fforwm a chyfarfod yn rheolaidd, i roi mwy o gyfle iddynt drafod y themâu a gododd yn ystod y digwyddiad. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Diverse Cymru a Chyngor Hil Cymru eisoes wedi cefnogi'r syniad o gael rhagor o gyfarfodydd. Roedd y digwyddiad yn ddechrau ar broses o ymgysylltu a fydd yn sefydlu perthnasoedd yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cefnogi datblygiad staff BME, gan sicrhau bod sefydliadau yn cynrychioli pawb y maent yn eu gwasanaethu. Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o brosiect Cynllun Gweithredu BME parhaus y Cynulliad, sydd â'r nod o fynd i'r afael â chynrychiolaeth BME ymhlith gweithlu'r sefydliad ac i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflogwr sy'n croesawu amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gweithredu BME, cysylltwch â selina.moyo@cynulliad.cymru.