Y Cynulliad yn disgleirio yn Sparkle

Cyhoeddwyd 20/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/11/2015

Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, gyda Craig Stephenson, Cyfarwyddwr y Cynulliad a Chadeirydd ein rhwydwaith staff LGBT, es i a stondin i Swansea Sparkle i siarad â'r cyhoedd am waith y Cynulliad a sut y gallent gymryd rhan. Cafodd Swansea Sparkle ei drefnu gan Tawe Butterflies a Heddlu De Cymru, ac roedd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Y nod oedd chwalu'r rhwystrau rhwng y cyhoedd a'r gymuned Drawsrywiol drwy ddod â sefydliadau o bob rhan o Gymru a'r DU at ei gilydd i arddangos y cymorth, y wybodaeth a'r cyngor sydd ar gael i'r gymuned. Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn a chawsom lawer yn dangos diddordeb yn y Cynulliad. Roedd llawer o bobl nad oeddynt yn ymwybodol bod ganddynt bum Aelod Cynulliad sy'n gyfrifol am eu cynrychioli yn y Cynulliad, felly roedd yn gyfle perffaith i'w cyflwyno i Archwilio'r Cynulliad: Eich Aelodau Cynulliad Chi a sgwrsio am pa faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau. Daeth dau o Aelodau'r Cynulliad at y stondin i ddweud helo a chael tynnu eu lluniau gyda ni - Julie James (Etholaeth Gorllewin Abertawe) a Peter Black (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) - roedd yn wych cael eu cefnogaeth yn y digwyddiad. [caption id="attachment_1082" align="alignnone" width="300"]Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James[/caption] [caption id="attachment_1083" align="alignnone" width="300"]Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black[/caption] Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â pherson ifanc sy'n trawsnewid ar hyn o bryd. Roeddwn i'n teimlo'n freintiedig iawn fod yr unigolyn yma wedi rhannu ei stori gyda mi, ac yr oedd yn ddiddorol clywed am y profiadau y mae wedi'u cael - yr hapus a'r trist. Cymerwyd camau mawr i sicrhau bod lleisiau'r gymuned Drawsrywiol yn cael eu clywed, ond mae'n amlwg iawn bod llawer o waith i'w wneud o hyd. Fe wnes yr ymdrech i sicrhau bod y person ifanc yn gwybod am yr holl ffyrdd gwahanol y gall gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, hyd yn oed pa mor galed mae'r Cynulliad yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu yn amrywiol ac yn hollol gynrychioliadol o gymunedau Cymru. Roedd yn wych cael adborth ar beth arall roedd yn credu y gallai'r Cynulliad weithio arno, a chaiff hyn ei gyfleu i'n Tîm Cydraddoldeb rhagorol. Esboniais hefyd pwy yw Comisiynydd Plant Cymru a beth yw ei swydd, felly os bydd yn teimlo bod angen help rhywun yn y dyfodol, mae rhywun arall y gall gysylltu â hi. Mae'n bwysig i holl bobl ifanc Cymru wybod am y Comisiynydd Plant. Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod ardderchog - wedi'i drefnu'n dda ac yn groesawgar iawn! Alla i ddim aros i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf! [caption id="attachment_1081" align="alignnone" width="300"]Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall[/caption]