Y Cynulliad yn eich ardal chi
Cyhoeddwyd 16/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru swyddogion yn gweithio ar draws Cymru yn darparu cyflwyniadau a gweithdai, yn cefnogi busnes y Cynulliad ac yn mynd i ddigwyddiadau’r haf.
Prosiectau a gweithdai
Mae’r tîm Allgymorth yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau a rhanddeiliaid ar draws Cymru yn lleol ac yn genedlaethol yn darparu cyflwyniadau a gweithdai i annog dealltwriaeth a ymgysylltiad â’r Cynulliad.
Mae pob partneriaeth a gaiff ei chreu yn unigryw i’r sefydliad ac yn seiliedig ar eu nodau ac amcanion.
Mae’r tîm Allgymorth yn sicrhau bod gan ddinasyddion ar draws Cymru ddealltwriaeth o bwy sy’n eu cynrychioli, y broses ddeddfwriaethol, sut mae’r Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a’r cyfleoedd ymgysylltu sydd ar gael iddynt.
Dyma enghreifftiau diweddar o sefydliadau rydym wedi cydweithio â hwy:
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cyngor ar Bopeth Cymru
Sgowtiaid Cymru
Princes Trust
Plant yng Nghymru
Darparu cymorth busnes
Mae’r tîm Allgymorth yn aml yn cefnogi busnes y pwyllgorau yn ystod eu hymchwiliadau a’r broses ymgynghori, yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliad ar draws Cymru i drafod newidiadau arfaethedig i’r gyfraith neu i bolisi a allai gael effaith uniongyrchol arnynt hwy.
Mae tystiolaeth a gesglir drwy ddulliau fel grwpiau ffocws, cyfweliadau fideo neu holiaduron, yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor fel tystiolaeth i’r ymgynghoriad. Mae’r dulliau hyn o ymgysylltu yn galluogi unigolion i fod yn rhan o’r broses a chymryd rhan mewn ffordd na fyddent, efallai, wedi’i wneud fel arall.
Am fwy o fanylion am waith Allgymorth yn eich ardal chi, ebost: timallgymorth@cymru.gov.uk
Ewch i'n tudalen youtbe am fideos gan gyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu â'r tîm allgymorth:
http://www.youtube.com/user/AssemblyCynulliad/featured
CCC - Pecyn Cymorth Ymgysylltu - Cymraeg