Y Cynulliad yn eich ardal chi - Clwb Ieuenctid Sandfields yn cael dweud eu dweud, 22 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 01/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2011

Cynhaliodd Swyddog Allgymorth Gorllewin de Cymru sesiwn gyda chlwb ieuenctid Sandfields ar 22 Tachwedd 2011. Trafodwyd ffyrdd o ddylanwadu ar y Cynulliad a sut y gall pobl ifanc gael dweud eu dweud ar waith y Cynulliad, gan gynnwys Deisebu a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Cawsant hefyd gyfle i gymryd rhan yn ymgynghoriad Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, sy’n gobeithio rhoi dewis ehangach i bobl ifanc o ran cyrsiau mewn ysgolion a cholegau. Bydd eu cyfraniad o gymorth i’r pwyllgor fedru adolygu llwyddiant y mesur a’r effaith y mae wedi cael ar fywydau plant a phobl ifanc Cymru.