Y Cynulliad yn eich ardal chi - Cynhadledd Flynyddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, 24 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 01/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2011

Cymerodd dîm Allgymorth y Cynulliad ran yng nghynhadledd flynyddol CGGC yn Llandudno ddydd Iau 24 Tachwedd 2011. Bwriad y gynhadledd oedd darparu sefydliadau’r trydydd sector â sgiliau ymarferol, adnoddau a chefnogaeth i’w helpu i ddatblygu yn y dyfodol. Cynhaliwyd nifer o weithdai drwy’r dydd yn ogystal â chyflwyniadau gan siaradwyr allweddol. Cynhaliwyd sawl gweithdy ar sut i wneud y defnydd gorau o’r cyfryngau digidol a thechnegau marchnata cymdeithasol. Testun y gweithdy olaf oedd sut mae modd dylanwadu ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Soniodd rhai o staff Lleisiau Dros Newid Cymru am rai o’r ffyrdd y gall sefydliadau sicrhau sylw i’w hunain, megis deisebau, ymgynghoriadau yn ogystal ag ymholiadau pwyllgorau.