Y Cynulliad yn eich ardal chi - Digwyddiad Gwasanaeth Gwirfoddol Sir Gar, 22 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 01/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2011

Aeth Bws Allgymorth y Cynulliad draw i Landeilo i gymryd rhan mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Gyngor Gwirfoddol Sir Gâr ddydd Mawrth. Rhoddodd hyn gyfle i bawb oedd yng nghyfarfod blynyddol y sefydliad ddysgu rhywfaint am waith y Cynulliad. Cawsant wybodaeth gan Reolwr Allgymorth canolbarth a gorllewin Cymru am ymgynghoriadau presennol y Cynulliad megis yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn a’r ymchwiliad Mesur a Dysgu Sgiliau (Cymru). Ar hyn o bryd, mae’r Cynulliad yn creu cynllun cydraddoldeb newydd felly cafodd aelodau o’r cyhoedd gyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yng nghwmni staff tîm cydraddoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.